Thyrza Anne Leyshon

Arlunydd Cymreig o Abertawe

Roedd Thyrza Anne Leyshon (7 Mawrth, 1892 -1996) yn Artist Cymreig oedd yn arbenigo mewn darluniau miniaturau.[1]

Thyrza Anne Leyshon
Ganwyd7 Mawrth 1892 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw1996 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Leyshon yn Abertawe yn blentyn i Thomas Howell Leyshon ac Ann ei wraig. Roedd y ddau riant yn Gymry Cymraeg ond ni wnaethant drosglwyddo'r iaith i'w merch.[2]

Gyrfa golygu

Am nifer o flynyddoedd bu’n gweithio fel rheolwr gyda chwmni peiriannau gwnïo Singer cyn dod yn was sifil gyda Chyllid y Wlad. Pan ymddeolodd o'r Gwasanaeth Sifil ym 1942 cofrestrodd yn Ysgol Gelf Abertawe a derbyn gwersi peintio preifat yn Llundain, gyda'r arlunydd miniatur Ethol Court. Peintiodd Leyshon miniaturau o dirweddau Cymru a'r Alban a hefyd bortreadau mewn dyfrlliw ar ifori. O ddechrau'r 1960au bu hi'n arddangos y rhain mewn sioeau grŵp ac arddangosfeydd eraill yng Ngwlad Belg, Ffrainc a'r America yn ogystal ag yn y DU. Arddangosodd Leyshon yn y Paris Salon ym 1962, 1965 a sawl gwaith rhwng 1968 a 1974 yn ogystal ag yn y Circle Nationale Belge d'Art et Esthetique ym Mrwsel ym 1963 ac yn yr Academi Frenhinol yn Llundain yn ystod 1969. Enillodd fedal aur yn y Paris Salon ym 1973 a medal arian yno ym 1968 ac enillodd fedal arian ym 1973 ym Mrwsel hefyd. Yn ei thref enedigol bu Leyshon yn arddangoswr rheolaidd yn Oriel Gelf Glynn Vivian ac roedd hefyd yn aelod cyswllt o Gymdeithas y Miniaturau.[3]

Marwolaeth golygu

Cofrestrwyd ei marwolaeth ym mis Chwefror 1996 yng Ngorllewin Abertawe yn 103 mlwydd oed.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. David Buckman (2006). Artists in Britain Since 1945 Vol 1, A to L. Art Dictionaries Ltd. ISBN 0 953260 95 X.
  2. Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad 2011 am ardal St Thomas Abertawe Cyf RG14/ 32793; atodlen rhif 77
  3. Peter W Jones & Isabel Hitchman (2015). Post War to Post Modern: A Dictionary of Artists in Wales. Gwasg Gomer. ISBN 978 184851 8766
  4. Mynegai Cofrestru Sifil Cymru a Lloegr, y Swyddfa Ystadegau Gwladol; Cofrestr A118, ardal 8971A, rhif 30