Cerddor Cymreig oedd Tich Gwilym (10 Medi 195019 Mehefin 2005), ganwyd Robert Gwilliam.[1]

Tich Gwilym
Ganwyd10 Medi 1950 Edit this on Wikidata
Llwynypia Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mehefin 2005 Edit this on Wikidata
Treganna Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth roc caled Edit this on Wikidata

Rhagarweiniad golygu

Ganwyd Robert John Gwilliam ym mhentref Penygraig ger Tonypandy yng Nghwm Rhondda ar 10 Medi 1950 yn rhif 1 Library Road, yn fab i William John ac Irene Gwilliam. Hanai ei dad-cu, John Albert, glöwr a thafarnwr, o Lanymddyfri, ac ef oedd y cyntaf i adeiladu tŷ ar Library Road.[2][3][4][5]

Dyddiau cynnar (1950-60au) golygu

Dangosodd Tich addewid cerddorol yn gynnar yn yr ysgol. Chwaraeai’r drymiau ac offerynnau amrywiol eraill (gan gynnwys y sielo) yn dda iawn, ond pan gafodd ei gitâr cyntaf pan oedd tua wyth mlwydd oed, rhoddodd y sielo a’r drymiau o’r neilltu a dyma ddechrau ar obsesiwn gydol oes.

Pan holwyd tad Tich am y cefndir cerddorol, roedd fel petai wedi dod o unman, meddai. Roedd ganddynt fodryb, aunt Evelyn, a oedd yn canu opera amatur, ond nid oedd unrhyw un arall yn y teulu’n gerddorol.

Dros y blynyddoedd cynnar felly, bu Tich yn gwrando ar recordiau di-ri, ac ar y cyfan bu’n dysgu ei hun i chwarae’r gitâr. Byddai’n gwrando ar y Rolling Stones a’r Beatles, ond un o’i hoff fandiau o’r cyfnod oedd The Kinks. Roedd yn hoff o James Taylor a Nanci Griffith fel ysgrifenwyr caneuon. Fel gitaryddion, roedd yn hoff o Jimi Hendrix a Jeff Beck, ond yn ddiweddarach daeth yn hoff o’r Shadows ac yn enwedig Hank Marvin. Enwodd ddau o’i feibion ar ôl Jimi a Hank.

Pan aeth i Ysgol Ramadeg Tonypandy, ffurfiodd nifer o fandiau. Un o’r cyntaf oedd Tich and The Mystics pan oedd tua 14 oed. Dechreuodd Tich ennill gwobrau fel y Rhondda Musician of The Year, a thynnodd sylw hyrwyddwr lleol o’r enw Bob McClure a drefnodd fod Tich yn recordio rhai caneuon ar finyl.

Hyd y gwyddys, dyma’r recordiad cynharaf o Tich ac yr oedd yn arddangos amseru a thonyddiaeth berffaith hyd yn oed yr oed hwnnw. Roedd yn amlwg wedi creu digon o argraff i rywun drefnu iddo recordio mewn stiwdio tua 1964/5.

Tra oedd yn yr ysgol, daeth yn ffrindiau â bachgen hŷn nag ef o’r enw Mike Monk. Roedd Mike yn gerddor hefyd a aeth ymlaen i gael gyrfa fel canwr, ac felly dyma ddechrau grwp o’r enw Tich Beck Reunion. Yn y band yr oedd Lynn Phillips, Bob Watkins, Eddie Aycock a Mike Monk. Roedd y band hwn yn chwarae caneuon roc/blues y cyfnod ac ambell gân wreiddiol.

Gyrfa Gerddorol golygu

Kimla Taz golygu

Erbyn 1967, roedd Tich wedi gadael yr ysgol ac wedi symud i Gaerdydd. Ar ôl rhai newidiadau i’r aelodau, newidiodd Tich Beck Reunion i fod yn Kimla Taz, grwp a oedd yn llawn addewid, gyda Tich yn chwarae’r gitâr ac yn canu. Meddyliwyd am yr enw Kimla Taz wrth iddynt basio siop Co-Op yng Nghimla ger Castell Nedd, a chyfaill iddynt a oedd yn ganwr oedd Taz.[6]

Bu gwahanol aelodau i’r band hwn ar wahanol gyfnodau, ond aeth John Morgan, Pete Hurley, Robert ‘Dodo’ Wilding a Tich ymlaen i fod yn gyd-aelodau o fand Geraint Jarman, sef Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr.

Denodd Kimla Taz ddiddordeb mawr, gyda chwmni recordiau CBS, Decca, Page One ac RCA yn dangos diddordeb. Arwyddwyd cytundeb gyda recordiau Decca i ryddhau record ar eu label Deram. Bu sesiwn recordio yn stiwdios Decca yn Llundain, a chynhyrchwyd y rhain hefyd gan Bob McClure. Dilynwyd hynny gan gigs lle y buont yn cefnogi bandiau mawr fel Jethro Tull a Fleetwood Mac yn gig Croeso ’69 yn y Fenni,[7] a Led Zeppelin yn Top Rank Caerdydd .[8] Teithiai’r band hefyd o gwmpas Ewrop yn chwarae yn yr Iseldiroedd a’r Almaen.[9] Bu llawer o frwdfrydedd am y band, gyda Love Sculpture – band Dave Edmunds o Gymru a oedd yn llwyddiannus iawn ar y pryd – yn honni mai Kimla Taz fyddai’r ‘peth mawr nesa’ pan holwyd hwy ar raglen John Peel ar Radio 1.[10] Yn anffodus, oherwydd anghytundeb â’r rheolwr, chwalodd y band cyn iddynt gwblhau albwm cyfan gyda Decca, ac er i’r band ailffurfio’n fuan yn ddiweddarach ni dderbyniodd y band yr un sylw.

O’r recordiadau gwreiddiol hynny a gynhyrchwyd yn stiwdios Decca, dau drac yn unig a ryddhawyd, sef ‘Tomorrow’ a ‘See You in The Morning My Friend’ yn 1968, y ddau gan Gwilym/Morgan.[11]

Cysylltiadau golygu

Yn ystod y cyfnod hwn, bu Tich yn cyfansoddi ac yn chwarae mewn nifer o fandiau lleol gan gynnwys Sad Sam, The Don Gwills, The Flagonairs, Spike, Just Good Friends, Tiger Bay a The Wrecking Crew.[12] Byddai nifer o’r bandiau hyn yn chwarae gan mwyaf o amgylch y cymoedd ac yng nghlybiau dinas Caerdydd .

Ar wahanol adegau yn ei yrfa, chwaraeodd Tich gyda cherddorion gorau’r ardal, cerddorion a aeth ymlaen i chwarae gyda mawrion y byd cerddorol fel Van Morrison, Paul McCartney a The Who. O’r un cyfnod, ac o’r un ardal, daeth nifer o fandiau Cymraeg dylanwadol iawn fel Budgie, Man, Racing Cars, Lonestar,[13] Sassafras, Memphis Bend a Red Beans And Rice. Chwaraeodd Tich gydag Andy Fairweather Low (Amen Corner, Eric Clapton, Joe Satriani), Dave Edmunds (Love Sculpture), Geraint Watkins (Status Quo, Paul McCartney), Arran Ahmun (Van Morrison, John Martyn, The Proclaimers), a Pino Palladino (The Who, Jools Holland, Jeff Beck). Ynghyd â’r bandiau y sonnir amdanynt maes o law, cafodd Tich sawl cynnig i chwarae mewn bandiau gwahanol, ond gwrthod y cynigion a wnaeth Tich gan fwyaf. Bu’n chwarae ambell gig i Joan Armatrading er enghraifft, ond ni chwaraeodd ar unrhyw un o’i halbymau.

Geraint Jarman a’r sîn Gymraeg (1976-86) golygu

Yng Nghaerdydd ar y pryd, ceid sîn gerddoriaeth fyw gyffrous, gyda bandiau o bob ardal yn cymysgu â’i gilydd. Roedd clybiau fel y Moon Club, Casablanca a’r Top Rank yn boblogaidd, lle y cyfarfu cerddor ifanc o’r enw Geraint Jarman â nifer o’r cerddorion a fyddai’n ffurfio ei fand, Y Cynganeddwyr, gydag amser.

Ar y pryd, roedd cerddoriaeth Gymraeg yn parhau’n fwy gwerinol a chanol y ffordd na cherddoriaeth Saesneg. Dechreuodd hyn newid gyda bandiau fel Y Blew ac artistiaid fel Meic Stevens. Yn 1969, ffurfiwyd Bara Menyn gyda Heather Jones, Geraint Jarman a Meic Stevens, band a oedd yn dychan cerddoriaeth ‘canol y ffordd’. Yn 1973, ffurfiwyd Edward H. Dafis, a thua’r cyfnod hwn y dechreuodd cerddoriaeth a sîn roc go-iawn yn y Gymraeg.

Ym mis Chwefror 1976, roedd Geraint Jarman ar fin recordio ei albwm cyntaf. Bu’n ysgrifennu cerddi a chaneuon i artistiaid eraill fel Heather Jones, ond hwn oedd y tro cyntaf iddo gynhyrchu ei gerddoriaeth ei hun. Bu’n cyd-weithio â ffrind o’r enw Phil Maynard (neu Mignaud) ers ei arddegau. Cynhaliai Phil Maynard noson i gerddorion gwerin a beirdd yn y Second Wave Club yng Nghaerdydd, clwb lle y chwaraeai Tich ei gitâr acwstig o bryd i’w gilydd, a gwelodd Geraint Jarman Tich yn chwarae yno ar ambell achlysur. Aeth Phil a Tich ymlaen i gydweithio wedi hynny gan ffurfio deuawd ‘Phil & Tich’ a chwaraeai’n rheolaidd yn nhafarn y Royal Oak yng Nghaerdydd.

Daeth Geraint i adnabod dyn o’r enw Des Bennett a oedd yn beiriannydd sain gyda’r BBC, a oedd yn y broses o agor stiwdio newydd ar Stacey Road yng Nghaerdydd. Roedd Des eisiau artistiaid i’w recordio, ac felly roedd yn gyfle gwych i Geraint allu recordio ei albwm cyntaf.

Yn y sesiwn cyntaf, chwaraeodd Geraint Watkins (y chwaraewr piano ac acordion anhygoel), Robert ‘Dodo’ Wilding (a oedd yn chwarae drymiau gyda Racing Cars a Kimla Taz) a Lincoln Carr, a oedd yn chwarae bâs gyda Memphis Bend a Red Beans and Rice.

Ar ôl y sesiwn cyntaf, penderfynodd Phil nad oedd yn teimlo’n gyfforddus yn chwarae’r rhannau unigol ar y caneuon ac felly ar gyfer yr ail sesiwn, estynnodd wahoddiad i’w ffrind Tich chwarae hefyd. Pan gyfarfu Geraint â Tich am y tro cyntaf, cerddodd Tich i mewn i’r stiwdio a gofyn ‘All right butt? ... What do you want me to do?’, a dyna ddechrau ar berthynas oes.[14]

Dros y flwyddyn ganlynol, daeth Geraint Jarman a Tich yn ffrindiau ac âi’r ddau ati i rannu recordiau. Un cerddor a ddylanwadodd yn fawr ar Tich o ganlyniad i hynny oedd Nils Lofgren a chwaraeai gyda Neil Young ar y pryd, ac yn ddiweddarach Bruce Springsteen.

Tra bod perfformiad Tich ar Gobaith Mawr Y Ganrif (Geraint Jarman) yn un proffesiynol, nid tan iddo chwarae ar ail albwm Geraint, Tacsi i’r Tywyllwch, yn 1977 y cafodd gyfle i arddangos ei dalentau.

Gig gyntaf Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr oedd y rhyng-gol yn Aberystwyth yn 1977. Bu rhai gigs cyn hynny ond yn y flwyddyn honno y sefydlwyd y band go-iawn. Y Cynganeddwyr gwreiddiol oedd Tich, Ronald ‘Cat’ Croxford, Richard Dunn a John Morgan.

Racing Cars (1978/79) golygu

Tua diwedd 1978, ar ôl recordio albwm Hen Wlad Fy Nhadau gyda Geraint Jarman, gadawodd Tich y band am chwe mis er mwyn chwarae a theithio gyda’r band Racing Cars. Cafodd y band lwyddiant mawr gyda’r gân ‘They Shoot Horses Don’t They?’. Chwaraeodd y band hefyd ar raglenni’r BBC Top of the Pops yn 1977,[15] a The Old Grey Whistle Test[16] ar 14 Rhagfyr 1976 a 2 Ionawr 1979[17] (pan chwaraeodd Tich gyda hwy).[18] Ar ôl chwe mis, dychwelodd Tich i Gymru gan adael y Racing Cars a chwarae unwaith eto gyda Geraint Jarman.

Recordiodd Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr sawl albwm llwyddiannus iawn, sef Gwesty Cymru (1979), Fflamau’r Ddraig (1980), Diwrnod i’r Brenin (1981) a Macsen (1983).

 
Tich Gwilym yn chwarae efo 'Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr' yn Tachwedd 1985

Mochyn 'Apus golygu

Yn 1983 ymunodd Tich efo band newydd efo ei ffrind y cerddor a’r actor Dewi ‘Pws’ Morris

Aelodau’r band oedd Dyfed Thomas, Dafydd Pierce, Dai Watkins, Dewi Pws a Tich. Roedd y gerddoriaeth yn arbrofol ac yn croesi ffiniau cerddoriaeth roc datblygedig (prog) a blues/roc cyffredin, ac yr oedd naws theatrig i’w perfformiadau.

Gwaith cyfryngol golygu

Yn ystod yr 1980au, dechreuodd Tich dderbyn llawer o waith yn y cyfryngau Cymraeg. Bu’n cyfansoddi a pherfformio’r gerddoriaeth gefndirol ar gyfer y rhaglen boblogaidd i blant Ffalabalam, a byddai’n aml yn chwarae darnau offerynnol ar raglenni’r cyfnod. Bu’n chwarae ar nifer o recordiau fel 'Dwylo Dros y Môr' a seiliwyd cymeriad arno mewn cartwn o’r enw Hanner Dwsin (y bu’n gyfrifol am gyfrannu at y gerddoriaeth).

Siân James golygu

Cyfrannodd Tich at nifer o albymau Siân James yn ystod y cyfnod hwn, gan chwarae gitâr acwstig a’r charango gan fwyaf. Meddai Siân fod Tich wrth ei fodd pan dderbyniodd wahoddiad yn 1998 i fynd allan i Tokyo ar daith. Roedd Tich yn dwli ar ddiwylliant Siapaneaidd ar ôl astudio Aikido hyd at lefel uchel iawn, first dan,[19] felly roedd wrth ei fodd yno a Siân yn dweud ei fod yn wên o glust i glust gydol yr amser.

Mae Tich yn chwarae ar sawl albwm gan Siân James, a bu’n chwarae gigs byw gyda Siân James a Gwyn Jones am weddill ei yrfa.

Ailafael gyda Geraint Jarman golygu

 
Tich Gwilym, Geraint Jarman & Keith Murrell yn 1985

Ar ôl 1987, ni welodd Geraint Tich am flynyddoedd. Bu Geraint ei hun yn brysur yn gweithio yn y cyfryngau fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr, felly pan ysgrifennodd ei albwm Rhiniog yn 1992, roedd yn gyfle unwaith eto i’r ddau gydweithio.

Pan welodd Geraint Tich am y tro cyntaf wedi nifer o flynyddoedd, meddyliodd ei fod yn dawel ac nid yr un person. Daeth i’r stiwdio gyda’i ffrind Mike Monk a Mike yn aml oedd yn siarad ar ei ran.[20]

Er nad oedd y band yn gigio mor gyson â’r hyn a wnâi’r Cynganeddwyr yn ystod y 1970au a’r 1980au, cafwyd ambell gig mawr. Yn 1991, cynhaliwyd gig gan Gymdeithas yr Iaith, ‘Rhyw Ddydd Un Dydd’, ym Mhontrhydfendigaid, a chwaraeodd y band tua chwe chân.

Yn 1998, perfformiodd y band llawn ar lwyfan Maes B o flaen torf o dros fil o bobl, gyda Tich ar y gitâr flaen. Ar ddechrau’r mileniwm, chwaraeodd y band yng Ngŵyl y Faenol ym Mangor ac yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau ym Meifod yn 2003.

Marwolaeth golygu

Ar 19 Mehefin 2005, bu farw Tich mewn tân yn nhy ffrind iddo yng Nghaerdydd. Dyfarnwyd yn ddiweddarach mai marwolaeth ddamweiniol ydoedd o ganlyniad i effeithiau mwg ar ôl i gannwyll ddisgyn mewn ystafell ymolchi.

Daeth torf helaeth i’r angladd, nifer o’r dorf yn artistiaid adnabyddus fel Dave Edmunds ac aelodau o Budgie a Man ynghyd â bandiau y chwaraeodd Tich iddynt. Gorffennwyd y seremoni gyda fersiwn Tich o ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.[3][4][5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Newyddion ar wefan Siân James". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-09. Cyrchwyd 2007-11-08.
  2. Cyfweliad ag Adrian a William John Gwilliam.
  3. 3.0 3.1 Tributes to rocker Tich killed in blaze, Lauren Turner South Wales Echo 21 Mehefin 2005
  4. 4.0 4.1 Profil Tich Gwilym ar wefan y BBC
  5. 5.0 5.1 Tich Gwilym yn marw BBC 25 Mehefin 2005
  6. Erthygl bapur newydd am glawr albwm Kimla Taz.
  7. Croeso 69 Blues Festival, http://www.ukrockfestivals.com [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2016].
  8. April 2, 1969, http://www.ledzeppelin.com/show/april-2-1969 [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2016]
  9. Sgwrs gyda Pete Hurley.
  10. Erthygl bapur newydd ar glawr albwm Kimla Taz.
  11. Gellir gwrando ar y traciau hyn ar http://www.britishmusicarchive.com/K/274-kimla-taz/songs Archifwyd 2017-08-20 yn y Peiriant Wayback..
  12. Coeden deuluol ar dudalennau clawr Kimla Taz.
  13. Llun o Tich yn chwarae gyda’r band ar wefan JimJam, http://homepage.ntlworld.com/thejimjam/jjTichGwilym.html [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2016]
  14. Jarman, G. a Williams, E. (2011), Twrw Jarman (Llandysul: Gwasg Gomer), t. 31.
  15. Valleys band Racing Cars call it a day, http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/valleys-band-racing-cars-call-2136432 [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2016].
  16. Jarman a Williams (2011), Twrw Jarman, tt. 49–50.
  17. Archival recordings, http://www.edensongs.com/recordings/recordings.html [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2016].
  18. Llun yn Jarman a Williams (2011), Twrw Jarman, t. 50.
  19. Trystan Pritchard (2005), 'tich', Y Selar, 4, Awst 2005 https://issuu.com/y_selar/docs/selar5/1 [Cyrchwyd: 28 Ebrill 2016].
  20. Jarman a Williams (2011), Twrw Jarman, t. 145.
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Tich Gwilym ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Comisiynwyd y cofnod hwn yn wreiddiol ar gyfer Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, (Y Lolfa, 2018). Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.