Cymeriad ffuglen yng nghyfres nofelau ffantasi ddigri Disgfyd Terry Pratchett ydy Tiffany Aching. Mae hi'n wrach ifanc hyfforddedig ac yn brif gymeriad yn nofelau The Wee Free Men, A Hat Full of Sky a Wintersmith, ond yn wahanol i rhai cyfresi ffuglen megis The Famous Five, mae hi'n datblygu a thyfu'n hŷn o lyfr i lyfr. Mae pedwerydd nofel ar y gweill yn dilyn hanes Tiffany, gyda'r teitl ar waith: I Shall Wear Midnight.

Roedd yn 13 oed ar ei ymddangosiad olaf yn Wintersmith, daw Tiffany o'r twyndir sialc, Rimward y Ramtops. Roedd ei hen nain, Sarah Aching, yn fugail, a hefyd yn wrach yn ôl safonnau'r Ramtops, er gwgwyd dewiniaeth ar y Sialc hyd cyrhaeddiad Tiffany. Roedd 'Granny Aching' yn ffrind i'r Llwyth Sialc Nac Mac Feegle, (byddin o bobloedd bychain glas, stwrllyd, meddw gyda nodweddion Albanaidd) ac roeddent wedi dod yn ffrindiau gyda Tiffany yn ei rôl newydd fel gwrach y bryniau ("hag o' the hills"). Roedd Tiffany yn Kelda (Brenhines) iddynt am gyfnod byr, mae'r Nac Mac Feegle yn ystyried eu bod yn gyfrifol amdani, maent wedi cadw golwg ar Tiffany yn (an)synhwyrol drwy gydol ei bywyd ers hynny.

Dechreuodd Tiffany ei gyrfa fel gwrach yn naw oed, ar ôl cael ei chanfod gan y "darganfyddwr gwrachod" Miss Tick. Arweiniodd y Feegles ar daith i wlad y tylwyth i achub Wentworth, ei brawd bach ifanc a gludiog, a Roland, mab ifan y Barwn lleol, oddi wrth Brenhines yr Elves. Enillodd barch Granny Weatherwax yn dilyn hyn, camp nodweddiadol yn ei hun. Er, roedd hi'n rhy ifanc i fod yn wrach ar y pryd, rhoddodd Granny Weatherwax het anweladwy dychmychol iddi i hybu ei hyder. Mae pŵer cred mor gryf ar y Ddisg yr oeddy het yn gallu cadw'r glaw i ffwrdd. Dyflwydd yn ddiweddarach, teithiodd Tiffany i Lancre i gaelei phrentisio yn swyddogol i'r wrach Miss Level, ac yn ddiweddarach Miss Pullunder a Miss Treason. Yn dilyn marwolaeth Miss Treason, cafodd ei phrentisio i Nanny Ogg am gyfnod byr cyn dychwelyd i'r Sialc a cymryd ei lle fel Gwrach y Tir-sialc.

Fel Granny Weatherwax, mae Tiffany wedi meistri'r grefft o Fenthyg (i gamu tu allan i hi ei hun), er ni adnabyddodd hyn ar y pryd. Gadawodd hyn ei chorff yn archolladwy i gael ei blâu gan "hiver" (endid gestalt o feddyliau o wawr amser) a ddefnyddiodd ei phŵer i achosi niwed a creu anhrefn. Llwyddodd i drechu'r hiver yn y diwed gan roi iddo beth oedd wir eisiau: y gallu i farw. Mae hefyn yn arbennig o dda am wneud caws; mae wedi gallu rhywsut, i greu un caws las o'r enw Horace, sydd gyda'r tueddiad rhyfedd o fwyta llygod. Mae wedi darllen y geiriadur yn gyfan gwbl, er mae ganddi drafferth ynganu weithiau. Mae gan Tiffany hefyd allu greddfol gyda ieithoedd - canlyniad o'i meddiant byr gan y hiver. Roedd meddiant ei meddwl gan greadur a oedd wedi casglu meddyliau eraill wedi ei gadael gyda cyfgodion o'u atgofion, gan gynnwys un dewin didactig marw o'r enw Sensibility Bustle, sy'n cyfieithu unrhyw air estron yn ei phen unwaith mae'n gweld neu'n clywed y gair.

Tra'n hyfforddi yn Lancre, mynychodd gwfen o wrachod ifanc o dan "arweinyddiaeth" Annagramma Hawkin (hi oedd yr "arweinydd" oherwydd mai ganddi hi oedd y llais llymaf ac roedd hi'n bossy). Cymhwysodd Tiffany a'i chyd-aelodau o'r cwfen yn dda fel gwrachod yn y diwedd, gan gynnwys Lucy Warbeck a Petulia Gristle; ond fe ganfodd Annagramma fod ei hyfforddiant, o dan diwtoriaeth balch ac arwynebol Letice Earwig, yn bell o fod yn ddigod i'w pharatoi ar gyfer y realiti bywyd o ddewiniaeth fel gwrach, cytunodd ei chyn-gyd-aelodau o'r cwfen i'w helpu i'w thraed.

Yn ddiweddar, mae Roland wedi dangos yn gryf fod ei serch tuag at Tiffany yn estyn ymhellach na ond diolchgarwch. Roedd ei fodlonrwydd i chwarae rôl yr Arwr mewn ymdrech i achub Tiffany oddi wrth sylw sechus wintersmith a dadwneud y niwed a'i achoswyd trwy ymyrryd yn Nawns y Tymhorau. Roedd Tiffany yn ansicr o'r wintersmith ar y cychwyn, ac wedi ei anesmwytho gan ei sylw, ond roedd hefyd wedi cael ei seboni gan y syniad o ddal llygad creadur duwiol. Parhaodd y wintersmith ei ymgais i'w charu, ac yn ôl cân plentyn, i geisio creu corff dynol o eira ac amryw o elfennau eraill hyd yn oed. Ar ôl derbyn cyngaor gan Nanny Ogg am faint o bŵer all merch ifanc ddal dros gwynwr, fe lwyddodd Tiffany i reoli'r wintersmith am gyfnod, ond enillodd ef yreolaeth a daeth ac eira ac oerfel i'r Sialc, a dorrodd record mewn gwanwyn a ddylsai wedi bod yn un mwyn, gan fygwth yr ŵyn newydd. Yn ddiweddarachm toddodd Tiffany ef gan ddefnyddio tric a ddysgwyd iddi gan Granny Weatherwax, gan lenwi ei rôl dros dro fel Boneddigaes yr Haf a galluogi i'r un go iawn gael ei dychwelyd i'w swydd wedi iddi gael ei nôl o'r Underworld gan Roland. Mae Tiffany yn gwadu fod ganddi unrhyw serch tuag at Roland, ond mae nifer o arwyddion fod teimladau'n bodoli tuag ato, er nad ydyw'n cyfaddau hynny.