Tilman Riemenschneider

cerflunydd Almaenig

Cerflunydd a cherfiwr coed Almaenig oedd Tilman Riemenschneider (tua 14607 Gorffennaf 1531) sydd yn nodedig am ei gerfluniau pisgwydd o olygfeydd Beiblaidd a bucheddau'r saint. Bu hefyd yn arfer ei grefft drwy gyfrwng marmor, calchfaen, ac alabastr.[1]

Tilman Riemenschneider
Ganwyd1460 Edit this on Wikidata
Heilbad Heiligenstadt Edit this on Wikidata
Bu farw17 Gorffennaf 1531, 7 Gorffennaf 1531 Edit this on Wikidata
Würzburg Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerflunydd, cerfiwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amZwölfbotenaltar Edit this on Wikidata
Mudiady Dadeni Almaenig Edit this on Wikidata
PlantBartlmä Dill Riemenschneider Edit this on Wikidata

Ganed yn Heiligenstadt yn rhanbarth Thwringia, a oedd ar y pryd dan reolaeth y Marchogion Tiwtonaidd ac yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Roedd ei dad yn feistr ar y bathdy yn Würzburg yn rhanbarth Ffranconia. Ymsefydlodd Tilman yn Würzburg erbyn 1479 ac yno sefydlodd gweithdy mawr ar gyfer cerfluniaeth garreg a phren ym 1483.

Bu'n weithgar ym mywyd dinesig Würzburg, a gwasanaethodd yn gynghorwr o 1504 i 1520 ac yn fwrgfeistr o 1520 i 1525. Rhodd ei gefnogaeth i'r chwyldroadwyr yn ystod Rhyfel y Gwerinwyr (1524–25) ac am y rheswm honno fe'i carcharwyd am dro, a chollodd ei ddyletswyddau gwleidyddol a'i nawddogaeth am gyfnod.

Ymhlith ei weithiau mae allor bren y Forwyn Fair (c. 1505–10) yn Eglwys Herrgotts, Creglingen; maen-ffurfiau Adda ac Efa yn y Marienkapelle, Würzburg; Allor y Gwaed Sanctaidd (1501–05) yn Eglwys St Jakob, Rothenburg; a Beddrod yr Ymerawdwr Harri II a'r Ymerodres Cunigunde (1499–1513) yn Eglwys Gadeiriol Bamberg.

Bu farw Tilman Riemenschneider yn Würzburg, tua 71 oed.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Claudia Lichte; Mainfränkisches Museum Würzburg (1999). Mainfränkisches Museum Würzburg: Riemenschneider Collection (yn Saesneg). Prestel. t. 11. ISBN 978-3-7913-2211-7.
  2. (Saesneg) Tilman Riemenschneider. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Awst 2020.