Cynhyrchydd ffilm sydd wedi ennill Gwobrau'r Academi ydy Tim Bevan, CBE (ganed 1958, Queenstown, Seland Newydd).

Tim Bevan
Ganwyd20 Rhagfyr 1958, 20 Rhagfyr 1957, Rhagfyr 1957 Edit this on Wikidata
Queenstown Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSeland Newydd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Sidcot School
  • Coleg Cheltenham Edit this on Wikidata
Galwedigaethcynhyrchydd ffilm, cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd Edit this on Wikidata
PriodJoely Richardson, Amy Gadney Edit this on Wikidata
PlantDaisy Bevan, Nell Bevan, Jago Bevan Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Sefydlodd y cwmni "Working Title Films" yn Llundain ar y cyd gyda Sarah Radclyffe yn ystod y 1980au. Mae'r ffilmiau lle gweithiodd Bevan fel cynhyrchydd neu uwch-gynhyrchydd yn cynnwys Moonlight and Valentino, Fargo, O Brother, Where Art Thou?, Captain Corelli's Mandolin, Love Actually, Notting Hill, Elizabeth, Bridget Jones's Diary, Atonement, a Frost/Nixon.

Ysgarodd Bevan o'i wraig gyntaf sef yr actores Seisnig Joely Richardson; mae ganddynt ferch, Daisy, a anwyd ym 1992. Mae ef bellach yn briod â Amy Gadney, ac mae ganddynt ferch Nell, ganwyd yn 2001 a mab Jago, a anwyd yn 2003. Tim Bevan yw cyd-gynhyrchydd y sioe gerdd Billy Elliot yn y West End.