Gwleidydd Seisnig, Aelod Seneddol dros etholaeth Westmorland a Lonsdale ac arweinydd Y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Tŷ'r Cyffredin rhwng 2015 a 2017 yw Timothy James 'Tim' Farron (ganwyd 27 Mai 1970).[1] Bu'n Llywydd y Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 2011 a 2014.[2][3] Ymddiswyddodd Farron fel arweinydd y blaid ar 14 Mehefin 2017.[4]

Tim Farron
Farron yn 2014
Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol
Deiliad
Cychwyn y swydd
16 Gorffennaf 2015
DirprwyTBC
Rhagflaenwyd ganNick Clegg
Llywydd y Democratiaid Rhyddfrydol
Yn ei swydd
1 Ionawr 2011 – 31 December 2014
ArweinyddNick Clegg
Rhagflaenwyd ganY Farwnes Rosalind Scott
Dilynwyd ganY Farwnes Sarah Brinton
Aelod o seddi blaen y Democratiaid Rhyddfrydol
Llefarydd y Dem. Rh. dros yr Amgylchedd
Yn ei swydd
18 Rhagfyr 2007 – 13 Mai 2010
ArweinyddNick Clegg
Rhagflaenwyd ganChris Huhne
Dilynwyd ganDiddymwyd
AS dros Westmorland a Lonsdale
Deiliad
Cychwyn y swydd
5 Mai 2005
Rhagflaenwyd ganTim Collins
Mwyafrif8,949 (18.3%)
Manylion personol
GanwydTimothy James Farron
(1970-05-27) 27 Mai 1970 (53 oed)
Preston, Swydd Gaerhirfryn, Lloegr
CenedligrwyddPrydeiniwr
Plaid wleidyddolDemocratiaid Rhyddfrydol
PriodRosie Farron
Plant2 ferch
2 fab
Alma materPrifysgol Newcastle
SwyddGwleidydd
GalwedigaethAthro

Y dyddiau cynnar golygu

Ganwyd Farron ym Mhreston, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Lostock Hall a Choleg Runshaw, Leyland, Lloegr; ymunodd gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol pan oedd yn 16 oed. Cafodd ei dderbyn fel myfyriwr ym Mhrifysgol Newcastle lle derbyniodd radd BA mewn gwleidyddiaeth yn 1992. Bu'n Llywydd Undeb y Myfyrwyr yno - yr aelod cyntaf o'r Democratiaid Rhyddfrydol i ddal y swydd ac etholwyd ef i'r pwyllgor cenedlaethol yn 1990.[5]

Gweithiodd ym Mhrifysgol Swydd Gaerhirfryn rhwng 1992–2002 a St. Martin's College, Ambleside, rhwng 2002-5.

Gyrfa wleidyddol golygu

Ymladdodd etholaeth North West Durhamyn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992 gan ddod yn drydydd - 20,006 o bleidleisiau y tu ôl i Hilary Armstrong AS dros y Blaid Lafur.

Etholwyd ef yn gynghorydd sir ar Gyngor Swydd Gaerhirfryn rhwng 1993 a 2000.

Bu'n aflwyddiannus yn Etholiad Senedd ewrop yn 1999 ond yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005 enillodd gyda mwyafrif ysig o 267 pleidlais.[6]

Cafodd ysbaid yn ysgrifennydd personol i Menzies Campbell ac yn 2007 fe'i penodwyd yn Llefarydd Materion Mewnol y Democratiaid Rhyddfrydol.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Tim Farron elected as Leader of the Liberal Democrats". Liberal Democrats. 16 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2015.
  2. Liberal Democrat Voice article on results Archifwyd 2010-11-15 yn y Peiriant Wayback. - Lib Dem Voice
  3. "Cambridgeshire campaigner becomes new President of the Liberal Democrats". itv.com. 2014-11-29. Cyrchwyd 2015-03-22.
  4. "Tim Farron yn gadael fel arweinydd Dem Rhydd". Unknown parameter |gwefan= ignored (help); Unknown parameter |adalwyd= ignored (help)
  5. "Tim Farron MP – MP for Westmorland and Lonsdale, Party President | The Liberal Democrats - Our MPs in Detail". Libdems.org.uk. 13 Tachwedd 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-15. Cyrchwyd 18 Medi 2013.
  6. House of Commons Debates for 25 Mai 2005 - Hansard