Mae Tim Rishton yn gerddor (organydd), awdur a darlledwr.

Tim Rishton
DinasyddiaethNorwy Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerddolegydd, organydd Edit this on Wikidata

A'i haniadau ym Môn (bu'r teulu'n cadw gefail Tregain gerllaw Llangefni) cafodd Rishton ei eni yng Ngogledd Lloegr.

Ar ôl iddo astudio gyda'r organyddes enwog o Awstria Susi Jeans, dychwelodd i Fôn yn yr 1980au yn Organydd Caergybi ac yn diwtor yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor, lle y cymerodd gradd doethur (PhD) mewn cerddoriaeth. Yn ogystal â chyngerddau yng Nghymru a thramor, dechreuodd Rishton ddarlledu a recordio - gan gynnwys cydweithio gydag Aled Jones i wneud rhaglenni HTV a recordiad gyntaf Aled ("Hear my Prayer" a gyhoeddwyd gan Sain).

Symudodd wedyn i Norwy a gweithio fel Athro yng Ngholeg Prifysgol Tromsø a swyddog cerddoriaeth yn Esgobaeth Gogledd Hålogaland. Erbyn hyn mae hefyd yn Gyfarwyddwr astudiaethau cerddoriaeth gydol oes ym Mhrifysgol Gaerhirfryn, ond mae'n parhau i fod yn aelod o Orsedd y Beirdd a Llys yr Eisteddfod.

Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr ac erthyglau lawer, y rhan fwyaf ohonynt wedi eu hysgrifennu yn Norwyeg. Ar hyn o bryd mae'n ysgrifennu llyfr newydd am gerddoriaeth 1400-1800 ar gyfer gwasg yn Norwy ond mae llyfr yn y Gymraeg ar y gweill hefyd. Cyhoeddwyd hefyd nifer o recordiadau; cerddoriaeth gynnar yn arbennig.

Ymddiddora'n arbennig mewn cerddoriaeth mewn eglwysi a chapeli pentref, ac mae'n well ganddo gynnal cyngherddau mewn pentrefi nac mewn dinasoedd a neuaddau cyngerdd mawrion. Mae ei ddatganiadau organ a'i recordiadau'n dra boblogaidd yn yr Almaen ac yn Norwy ond y mae'n weithgar ledled Ewrop a'r Unol Daleithiau.

Gan nad yw'n credu y dylai cerddoriaeth fod yn destun cystadleuaeth, nid yw Tim yn cymryd rhan mewn cystadleuthau.

Gweler hefyd golygu

  • International Who's Who in Music (11th edition) (Cambridge, 1988), p. 774
  • Bywgraffiad yng nghylchgrawn Romsdals Budstikke 19 Awst 1995, 16-17
  • Bywgraffiad yng nghylchgrawn Åndalsnes Avis, 5 Chwefror 1994, 8-9
  • Tim Rishton, Joyful Noise? The Why, What and How of music in church. Rhagair gan George Carey. Skipton: Holy Trinity Press, 2006
  • Tim Rishton, Liturgisk orgelspill. Stavanger: Cantando, 1996

Dolen allanol golygu