Am y ddrama gan Shakespeare, gweler Timon of Athens. Gweler hefyd Timon.

Uchelwr o ddinas Athen oedd Timon o Athen (Groeg: Τίμων ὁ Ἀθηναῖος) (fl. 5g CC). Roedd yn gyfoeswr i Socrates. Roedd yn ddyn gwrth-gymdeithasol iawn. Yn ôl y dramodwyr comedi a ymosodasant arno roedd Timon wedi diflasu ar y ddynolryw am fod ei ffrindiau cynnar wedi bod yn anniolchgar iddo ac wedi troi at fyw fel meudwy gan osgoi pawb.

Daeth yn gymeriad stoc yn y comedïau Groeg cyfoes. Yn ddiweddarach cyfansoddodd Lucian (c. 117 - 180) ddeialog amdano. Cynhwysodd William Painter (1540 - 1594) chwedl am Timon yn ei lyfr dylanwadol y Palace of Pleasure. Hon yn ei thro a roddodd ysbrydoliaeth i William Shakespeare i lunio ei ddrama adnabyddus Timon of Athens.