Gêm a chwaraeir rhwng dau dîm wrth fwrdd gan ddefnyddio darn bychan yw tipit. Honnir ei bod yn dyddio'n ôl gannoedd o flynyddoedd.[1] Gair benthyg yw 'tipit' o'r Saesneg 'tip-it'. Mae gemau tebyg - gan gynnwys Up Jenkins - yn cael eu chwarae mewn rhannau o Ffrainc, Irac, Iwerddon, Portiwgal, Sbaen ac UDA.

Y gêm golygu

Mae'r gêm yn cael ei chwarae gan ddefnyddio darn bychan - arian neu fotwm, er enghraifft - sy'n cael ei alw'n 'Tipit'. Mae dau dîm o ddau neu dri yn wynebu ei gilydd ar draws bwrdd ac yn taflu darn arian i benderfynu pwy sy'n mynd yn gyntaf. Mae'r tîm buddugol yn rhoi eu dwylo o dan y bwrdd a symud y Tipit heb ei weld rhwng y tri phâr o ddwylo. Pan fydd yn barod, mae'r chwaraewr canol yn curo deirgwaith ar ochr isaf y bwrdd a rhoddir pob un o'r tri phâr o ddyrnau caëedig (un yn cynnwys y Tipit) ar y bwrdd. Yna, rhaid i'r tîm arall, sy'n gallu ymgynghori ymysg ei gilydd, geisio dod o hyd i'r Tipit yn y modd canlynol.

Mae'r person sy'n ceisio dod o hyd i'r Tipit yn tapio llaw gwrthwynebydd ac yn dweud naill ai: -

  • "Ewch â'ch llaw chwith / dde i ffwrdd" neu "i ffwrdd". Mae'r gwrthwynebydd yn agor y llaw a bennwyd ac os nad yw'r Tipit yno, mae'r person yn rhoi'r llaw wrth ei ochr. Os datgelir y Tipit, yna mae'r tîm sy'n ei guddio wedi ennill y rownd. Maen nhw'n sgorio un pwynt ac yn cuddio'r Tipit eto.
  • "Tipit yn eich chwith / dde" neu "Tipit" yn unig. Mae'r gwrthwynebydd yn agor ei law i ddangos a yw'r Tipit yno. Os caiff y Tipit ei ddatgelu, yna bydd y tîm sy'n chwilio am y Tipit yn ennill y darn arian. Nid ydynt yn sgorio unrhyw bwyntiau ond yn cael y cyfle i guddio'r Tipit. Os nad yw'r Tipit yn y llaw honno, yna mae'r chwiliwr wedi colli ac mae'r tîm gyda'r Tipit yn sgorio pwynt ac yn ei guddio eto - unwaith maen nhw wedi datgelu ym mha law oedd y Tipit wedi'i guddio wedi'r cyfan.

Fel arfer chwaraeir gemau nes bod un tîm yn cyrraedd sgôr o 11.

Mae mân amrywiadau rhanbarthol yn gorchmynion a hyd y gêm ond mae'r rheolau hyn yn parhau i fod yr un fath ble bynnag y caiff y gêm ei chwarae.

Tactegau golygu

Nod y gêm yw bod y tîm sy'n cuddio'r Tipit eisiau gwneud i'r tîm arall ddyfalu'r dwrn anghywir. Mae'r gêm yn mynd yn dactegol iawn yn enwedig wrth ddewis pa law i roi'r Tipit ynddi ac mae chwaraewyr arbennig o fedrus yn llwyddo i guddio eu hemosiynau neu hyd yn oed gamarwain eu gwrthwynebwyr gan ddefnyddio ystumiau wyneb, iaith y corff a chellwair. Yn aml, gall y tîm sy'n dyfalu wneud i chwaraewr amhrofiadol ddatgelu ble mae'r Tipit drwy syllu i'w lygaid neu hyd yn oed edrych ar y dwylo.

Ble mae'n cael ei chwarae golygu

Cynhelir pencampwriaeth byd yng nghanolbarth Cymru bob blwyddyn.[1] Mae'r gêm yn dal i gael ei chwarae yn nhafarndai canolbarth Cymru yn enwedig o amgylch Rhaeadr, rhannau o Swydd Henffordd / Swydd Gaerloyw ac mewn rhai grwpiau sgowtiaid Wigan ar benwythnosau jamborî.

Yn 2006, cynhyrchodd S4C sioe deledu yn seiliedig ar y gêm. Galwyd y rhaglen hefyd yn Tipit, ac roedd yn cael ei chyflwyno gan Alex Jones a Morgan Jones.[2]

Mae Tipit hefyd yn cael ei chwarae yn Auckland, Seland Newydd gan ddisgynyddion Anne Hopkin o Gymru ac yn Pukekohe, Seland Newydd gan ddisgynyddion llinachau Vincent / Fisher o Loegr. Yn dilyn traddodiadau teuluol, dim ond ar ôl cinio Nadolig y caiff ei chwarae.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Tippit champ hands out tips". BBC News. February 18, 2004. Cyrchwyd March 4, 2013.
  2. "Tipit". Cyrchwyd March 4, 2013.