Titania (lloeren)

Titania yw'r bedwaredd ar ddeg a'r fwyaf o loerennau Wranws a wyddys:

Titania
Enghraifft o'r canlynollleuad o'r blaned Wranws, lleuad arferol Edit this on Wikidata
Màs3,527,000,000,000,000,000,000 +9.3e+19 -8.7e+19 cilogram Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod11 Ionawr 1787 Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.0011 Edit this on Wikidata
Radiws788.4 ±0.6 cilometr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cylchdro: 436,270 km oddi wrth Wranws

Tryfesur: 1578 km

Cynhwysedd: 3.49e21 kg

Brenhines y Tylwyth Teg a gwraig Oberon yw Titania yn y ddrama Midsummer Night's Dream gan Shakespeare.

Cafodd y lloeren ei darganfod gan Herschel ym 1787.

Mae Titania ac Ariel yn ymddangos yn debyg i'w gilydd er bod Ariel yn 25% yn llai. Fel lloerennau eraill Wranws, mae Titania yn 40-50% dŵr a 50-60% deunydd creigiog.

Mae arwyneb Titania'n gymysgedd o graterau a dyffrynnoedd rhyng-gysylltiedig sy'n gannoedd o gilomedrau o hyd. Mae arwyneb Titania'n gymharol ifanc; yn amlwg mae rhyw broses o adnewyddu'r arwyneb ar waith. Ymddengys rhai o'r craterau i fod wedi hanner eu tansuddo.

Yn ôl un theori ar hanes Titania roedd y lloeren yn ddigon boeth i fod yn hylif. Wrth iddi oeri fe wnaeth hi ehangu gan achosi i'r arwyneb gracio.