Dysgwr y Flwyddyn

(Ailgyfeiriad o Tlws Dysgwr y Flwyddyn)

Cystadleuaeth flynyddol yw Dysgwr y Flwyddyn sy'n agored i unigolion sydd wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn. Cychwynnodd y gystadleuaeth yn 1983.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw un dros 18 oed sydd wedi dysgu Cymraeg yn eithaf rhugl. Gall unigolyn ymgeisio’i hun, neu gall teulu, ffrind, cydymaith - unrhyw un - fynd ati i enwebu rhywun sydd wedi gwneud eu gorau gyda’r Gymraeg.[1]

Mae rhestr fer o bedwar unigolyn yn cael eu cyhoeddi fel arfer ym mis Mehefin. Caiff yr enillydd ei gyhoeddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.[2] Mae'r enillydd yn derbyn tlws arbennig a swm o arian. Mae'r tri arall sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn tlysau ac yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr. Bydd yr enillydd hefyd yn cael ei g/wahodd i fod yn aelod o’r Orsedd.[3]

Rhestr enillwyr golygu

  • 1983 - Shirley Flower, Clwyd
  • 1986 - Alan Whittick, Powys
  • 1988 - Jenny Pye, Llanbedrgoch
  • 1989 - Stel Farrar, Mynydd Llandegai
  • 1990 - Parchg John Gillibrand, Sir Gaerfyrddin
  • 1991 - Jo Knell, Caerdydd
  • 1992 - Sandy Rolls, Penderyn
  • 1993 - Janet Charton, Betws y Coed
  • 1994 - Sarah Williams, Llandeilo
  • 1995 - Paul Attridge, Lluest, Wrecsam
  • 1996 - Mark Aizelwood, Casnewydd
  • 1997 - Paul Elliott, Casnewydd
  • 1998 - Stephen Wilshaw, Caerdydd
  • 1999 - Alison Layland, Croesoswallt
  • 2000 - Sandra de Pol, Yr Ariannin
  • 2001 - Spencer Harris, Wrecsam
  • 2002 - Alice Traille James, Crymych
  • 2003 - Mike Hughes, Carno
  • 2004 - Lois Arnold, Y Fenni
  • 2005 - Sue Massey, Penmaenmawr
  • 2006 - Stuart Imm, Cwmbran
  • 2007 - Julie MacMillan, Y Rhondda
  • 2008 - Madison Tazu, Caerdydd
  • 2009 - Meggan Lloyd Prys, Rhiwlas, Bangor
  • 2010 - Julia Hawkins, Cruchywel
  • 2011 - Kay Holder, Bro Morgannwg
  • 2012 - Isaias Grandis, Trevelin, Patagonia
  • 2013 - Martyn Croydon, Llŷn
  • 2014 - Joella Price, Caerdydd
  • 2015 - Gari Bevan, Merthyr Tudful
  • 2016 - Hannah Roberts, Brynmawr
  • 2017 - Emma Chappell, Deiniolen[4][5]
  • 2018 - Matt Spry, Caerdydd[6]
  • 2019 - Fiona Collins, Carrog[7]
  • 2020 - Jazz Langdon, Arberth[8][9]
  • 2021 - David Thomas, Caerfyrddin[10]
  • 2022 - Joe Healy, Caerdydd[11]
  • 2023 - Alison Cairns, Llannerchymedd[12]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2018. Eisteddfod Genedlaethol Cymru (11 Ionawr 2018). Adalwyd ar 4 Awst 2021.
  2. Safon Dysgwr y Flwyddyn “wedi codi’n aruthrol”, meddai beirniad , Golwg360, 10 Awst 2017.
  3.  Enillwyr Dysgwr y Flwyddyn. Eisteddfod Genedlaethol. Adalwyd ar 1 Gorffennaf 2020.
  4. Emma Chappell o Ddeiniolen ydi Dysgwr y Flwyddyn , Golwg360, 9 Awst 2017.
  5. parallel.cymru (29/01/2018). "Dysgwyr y Flwyddyn 2017: Ein Profiadau Ni / Our Experiences". parallel.cymru. Cyrchwyd 11/02/2018. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  6. Matt Spry yw enillydd tlws Dysgwr y Flwyddyn 2018 , BBC Cymru Fyw, 8 Awst 2018.
  7. Fiona Collins yn ennill teitl Dysgwr y Flwyddyn , BBC Cymru Fyw, 7 Awst 2019. Cyrchwyd ar 10 Awst 2019.
  8. "JAZZ LANGDON WINS WELSH LEARNER OF THE YEAR". Prifysgol Cymru - Trindod Dewi Sant. 5 Awst 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-27. Cyrchwyd 7 Medi 2020.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  9. Evans, Paul (4 Awst 2020). "Narberth teacher scoops 'Welsh learner of the year' award". Tenby Observer. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-27. Cyrchwyd 7 Medi 2020.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  10. David Thomas yw Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod AmGen , BBC Cymru Fyw, 4 Awst 2021.
  11.  Joe Healy yw Dysgwr y Flwyddyn. Golwg360 (3 Awst 2022).
  12. "Alison Cairns ydy Dysgwr y Flwyddyn". Lingo360. 2023-08-09. Cyrchwyd 2023-08-09.

Dolenni allanol golygu