Roedd y toga, gwisg nodweddiadol o'r Rhufain Hynafol, yn ddarn hir o frethyn o tua 20 troedfedd o hyd a fyddai'n cael ei lapio o gwmpas y corff ac yn cael ei wisgo fel rheol dros tiwnig. Gwlan oedd deunydd arferol y toga, gyda'r tiwnig fel rheol yn lliain. Am y rhan fwyaf o hanes Rhufain roedd y toga yn ddilledyn a wisgid gan ddynion yn unig, tra gwisgai merched stola. Roedd y toga yn arwydd o statws a braint: gwaharddwyd pobl nad oeddent yn ddinesyddion Rhufeinig rhag gwisgo'r toga.

Y Toga
Eginyn erthygl sydd uchod am ddillad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato