Cenedlaetholwr Gwyddelig oedd Tomás Ceannt (Saesneg: Thomas Kent; 29 Awst 18659 Mai 1916) a ddienyddwyd gan fyddin Lloegr ar 2 Mai 1916, yn dilyn Gwrthryfel y Pasg.

Tomás Ceannt
Ganwyd29 Awst 1865 Edit this on Wikidata
Caisleán Ó Liatháin Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mai 1916 Edit this on Wikidata
Collins Barracks Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gwyddel
Galwedigaethchwyldroadwr Edit this on Wikidata

Roedd Ceannt o deulu o Wyddelod pybyr a oedd yn byw yn 'Bawnard House', Castlelyons, Swydd Corc. Pan ddechreuodd Gwrthryfel y Pasg, cyrchodd y 'Royal Irish Constabulary' eu cartref, a chartrefi cenedlaetholwyr eraill. Ceisiodd y teulu amddiffyn eu hunain: Toamás a'i frodyr Richard, David and Wiliam a bu saethu o'r ddwy ochr am oriau. Lladdwyd y Prif Gwnstabl William Rowe ac anafwyd David yn ddifrifol a bu'n rhaid iddynt ildio. Ceisiodd Richard ffoi ar y funud olaf ond fe'i lladdwyd.

Rhoddwyd Tomás a Wiliam o flaen eu gwell mewn llys milwrol ar gyhuddiad o wrthryfela. Rhyddhawyd Wiliam ond dedfrydwyd ei frawd Tomás i farwolaeth ac fe'i saethwyd gan sgwad o filwyr Saesnig yng Nghorc ar 9 Mai 1916. Yn Nulun, rhoddwyd y trydydd brawd, David, o flaen ei well, wedi'i gyhuddo o'r un cyhuddiad: gwrthryfela. Fe'i dedfrydwyd yntau i farwolaeth, ond newidiwyd y ddedfryd ychydig yn ddiweddarach i bum mlynedd o garchar.

Claddwyd Tomás Ceannt yng ngerddi Carchar Corc (a elwid gynt yn 'Faracs Victoria').

Rheilffordd golygu

Galwyd prif Orsaf Reilffordd Corc ar ei ôl.

Angladd gan y Wladwriaeth golygu

Yn 2015 cynigiodd Taoiseach Iwerddon, Enda Kenny, Gynhebrwng gan y Wladwriaeth i deulu Ceannt, a derbyniwyd y cynnig.[1] Codwyd gweddillion ei gorff o garchar Corc (wedi 99 mlynedd yn y ddaear),[2] a chafwyd Angladd gan y Wladwriaeth er cof amdano ar 18 Medi 2015 yn Eglwys Sant Nicolas, Castlelyons.[3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu