Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Tom Lawrence (ganwyd Thomas Morris Lawrence 13 Ionawr 1994). Mae'n chwarae i Blackburn Rovers, ar fenthyg o Ipswich, a thîm cenedlaethol Cymru.

Tom Lawrence

Lawrence yn cynrychioli Cymru yn 2015
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnThomas Morris Lawrence[1]
Dyddiad geni (1994-01-13) 13 Ionawr 1994 (30 oed)
Man geniWrecsam, Cymru
Taldra1.75m
SafleYmosodwr
Y Clwb
Clwb presennolBlackburn Rovers
Rhif34
Gyrfa Ieuenctid
Everton
2002–2013Manchester United
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2013–2014Manchester United1(0)
2013–2014Carlisle United (ar fenthyg)9(3)
2014Yeovil Town (ar fenthyg)19(2)
2014–Caerlŷr3(0)
2014Rotherham United (ar fenthyg)6(1)
2015–2016Blackburn Rovers (ar fenthyg)21(2)
2016–Dinas Caerdydd (ar fenthyg)14(0)
2016–Ipswich Town (ar fenthyg)24(9)
Tîm Cenedlaethol
2010–2013Cymru dan 174(0)
2012–2013Cymru dan 195(0)
2013–Cymru dan 218(3)
2015–Cymru4(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 04 Chwefror 2017 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 28 Mawrth 2016 (UTC)

Gyrfa clwb golygu

Manchester United golygu

Yn wreiddiol, roedd Lawrence yn rhan o Academi Everton, ond symudodd i Manchester United yn naw mlwydd oed ac arwyddodd gytundeb proffesiynol gyda'r clwb yn 2012[2].

Ym mis Tachwedd 2013 aeth ar fenthyg i Carlisle United gan wneud ei ymddangosiad llawn cyntaf yn erbyn Swindon Town ar 30 Tachwedd 2013[3]. A chafodd gyfnod ar fenthyg gyda Yeovil Town ym mis Ionawr 2014 cyn dychwelyd i Manchester United ym mis Mai 2014[4].

Gwnaeth Lawrence ei ymddangosiad cyntaf i Manchester United ar 6 Mai 2014 mewn buddugoliaeth 3-1 dros Hull City gyda'r rheolwr dros-dro, a'i gyd Gymro, Ryan Giggs, yn cymryd ei le pan gafodd Lawrence ei elyddio wedi 70 munud.[5].

Caerlŷr golygu

Ymunodd Lawrence â Chaerlŷr ar 2 Medi 2014 gan arwyddo cytundeb pedair blynedd[6] ond cyn ymddangos i'w glwb newydd cafodd ei fenthyg i Rotherham United yn y Bencampwriaeth[7]. Sgoriodd un gôl mewn chwe ymddangosiad i Rotherham cyn dychwelyd i Gaerlŷr. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gaerlŷr ar 3 Ionawr 2015 yng Nghwpan FA Lloegr yn erbyn Newcastle United[8]

Gyrfa ryngwladol golygu

Ar 22 Mai 2014 cafodd ei alw i garfan Cymru am y tro cyntaf ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Yr Iseldiroedd.[9] a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Andorra ar 13 Hydref 2015[10].

Cyfeiriadau golygu

  1. "Clubs submit retained and released lists". premierleague.com. Premier League. 7 June 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-13. Cyrchwyd 2014-05-22.
  2. "Six young pros sign pro forms". 2012-07-05. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Swindon Town 3-1 Carlisle Utd". 2013-11-30. Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Manchester United boss Ryan Giggs to cast eye over Tom Lawrence after Yeovil Town loanee returns north". 2014-05-01. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-02. Cyrchwyd 2014-05-22.
  5. "Man Utd 3-1 Hull City". 2014-05-06. Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Leicester sign Man Utd youngsters Nick Powell and Tom Lawrence". BBCSport. 2014-09-02.
  7. "Rotherham sign Tom Lawrence and Scott Wootton on loan". BBC Sport. 2014-11-27.
  8. "Leicester 1-0 Newcastle". BBC Sport. 2015-01-03.
  9. "Bale yng ngharfan Cymru". 2014-05-22. Unknown parameter |published= ignored (help)
  10. "Wales 2-0 Andorra". WelshFootballOnline. Unknown parameter |published= ignored (help)