Darlunydd a oedd yn enwog am ei luniau rhywiol a ffetis oedd Touko Valio Laaksonen, a oedd yn fwy adnabyddus o dan ei ffugenw Tom of Finland (8 Mai 19207 Tachwedd 1991). Cafodd ddylanwad mawr ar ddiwylliant hoyw diwedd yr ugenifed ganrif. Cafodd ei ddisgrifio fel y "most influential creator of gay pornographic images" gan yr hanesydd diwylliannol Joseph W. Slade.[1]

Tom of Finland
FfugenwTom of Finland Edit this on Wikidata
GanwydTouko Valio Laaksonen Edit this on Wikidata
8 Mai 1920 Edit this on Wikidata
Kaarina Edit this on Wikidata
Bu farw7 Tachwedd 1991 Edit this on Wikidata
o emffysema ysgyfeiniol Edit this on Wikidata
Helsinki Edit this on Wikidata
Man preswylKaarina Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Ffindir Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Sibelius Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, darlunydd, cartwnydd, drafftsmon Edit this on Wikidata
Blodeuodd1979 Edit this on Wikidata
Gwobr/auCross Rhyddid, Dosbarth 4 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://tomoffinlandfoundation.org Edit this on Wikidata
llofnod
Gwryw nodweddiadol o waith Tom of Finland

Dros gyfnod o bedwar degawd, cynhyrchodd oddeutu 3500 o ddarluniadau, gyda'r mwyafrif ohonynt yn darlunio dynion gyda nodweddion rhywiol a oedd wedi'u gorbwysleisio gyda chyrff hynod gyhyrog. Pwysleisiodd y dillad tynn neu'r diffyg dillad y nodweddion hyn, ac yn aml dangoswyd siap y pidyn trwy'r trowsusau tynn. Yn aml dangosodd ei luniau dau neu fwy o ddynion naill ai cyn neu yn ystod gweithgarwch rhywiol.

Cyfeiriadau golygu

  1. Slade, Joseph W.: Pornography and Sexual Representation: A Reference Guide, Volume 2. T. 545–546. Greenwood Publishing Group, 2001. ISBN 0-313-27568-8