Tomas ap Rhodri

tirfeddiannwr

Roedd Tomas ap Rhodri (c. 1300 - 1363) yn fab i Rhodri ap Gruffudd, brawd Llywelyn ap Gruffudd, ac yn dad i Owain Lawgoch.

Tomas ap Rhodri
Ganwydc. 1295 Edit this on Wikidata
Bu farw1363 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethtirfeddiannwr Edit this on Wikidata
TadRhodri ap Gruffudd Edit this on Wikidata
PlantOwain Lawgoch Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Lladdwyd Llywelyn ym mis Rhagfyr 1282, a dienyddiwyd ei frawd Dafydd ap Gruffudd yn 1283. Carcharwyd eu plant i gyd am oes. Roedd brawd arall, Owain Goch, yn ôl pob tebyg eisoes wedi marw, gan adael Rhodri fel yr olaf o'r brodyr. Roedd ef wedi gwerthu ei hawl ar ran o deyrnas Gwynedd i'w frawd Llywelyn tua 1270, ac wedi symud i fyw i Loegr.

Thomas ap Rhodri oedd unig fab Rhodri a'i ail wraig, a ganed ef yn Lloegr tua 1300. Priododd ei chwaer, Catrin, i mewn i deulu hen dywysogion Powys Wenwynwyn, yn awr Ieirll Powis. Eifeddodd Thomas diroedd ei dad yn Swydd Gaer a Tatsfield yn Surrey, ond cyfnewidiodd y tiroedd yn Swydd Gaer am diroedd yn Bidfield, Swydd Gaerloyw a Dinas ym Mechain Is Coed (gogledd Powys). Ymddengys iddo geisio hawlio arglwyddiaeth Llŷn, fel etifedd ei ewythr Owain Goch, ond yn aflwyddiannus. Er mai ef oedd etifedd Teyrnas Gwynedd bellach, nid ymddengys iddo erioed ei hawlio. Priododd wraig o'r enw Cecilia, a ganed iddynt fab, Owain ap Thomas ap Rhodri ap Gruffudd, neu Owain Lawgoch.

Llinach golygu

 
 
 
 
 
 
 
 
Llywelyn Fawr
1173-1240
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Gruffudd ap Llywelyn Fawr
1200-1244
 
Dafydd ap Llywelyn
1215-1246
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Goch ap Gruffydd
d. 1282
 
Llywelyn ap Gruffudd
(Llywelyn yr Ail)
1223-1282
 
 
 
Dafydd ap Gruffydd
1238-1283
 
 
 
 
 
 
 
Rhodri ap Gruffudd
1230-1315
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Y Dywysoges Gwenllian
1282-1337
 
Llywelyn ap Dafydd
1267-1287
 
Owain ap Dafydd
1265-1325
 
Gwladys
(m. 1336 yn Sixhills)
 
Tomas ap Rhodri
1300-1363
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Lawgoch
1330-1378