Ton
Patrwm sy'n teithio, o ronynnau neu feysydd ffisegol sy'n dirgrynu, yw ton, nid oes unrhyw mater yn cael ei symud namyn egni'r don sy'n cael ei drosglwyddo trwy'r mater, a gellir ddefnyddio tonnau i symud negeseuon o un lle i'r llall. Mae'n rhaid i lawer o donnau deithio trwy gyfrwng, megis tonnau sain, ond nid felly tonnau electromagnetig - sy'n gallu teithio trwy wagfa. Gellir rhannu ton yn ddau gategori sef ardraws neu arhydol.
Math | osgiliad |
---|---|
Yn cynnwys | ton ardraws, ton arhydol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Priodweddau tonnau golygu
- Gall tonnau cael eu hadlewyrchu. Rhai esiamplau o adlewyrchiad ton yw adlais sain, cyfarpar mesur dyfnder sonar ac unrhyw beth sydd ddim yn fynhonnell golau ac sy'n weladwy.
- Gall tonnau cael eu plygu. Wrth i donnau arafu a chroesi ffin megis gwydryn maent yn newid cyfeiriad ac felly'n plygu.
Tonnau arhydol golygu
Mewn tonnau arhydol mae'r gronynnau'n symud yn ôl ac ymlaen ar hyd cyfeiriad teithio'r don. Gweler cyfres o gywasgiadau a thyniadau o fewn y don. Esiamplau o'r rhain yw tonnau sain a thonnau seismig cynradd (tonnau P).
Tonnau ardraws golygu
Mewn tonnau ardraws, bydd y gronynnau'n symud yn ôl ac ymlaen mewn cyfeiriad sy'n normal i gyfeiriad y ton. Esiamplau o'r rhain yw tonnau dŵr a thonnau seismig eilradd (tonnau S). Mae'r tonnau electromagnetig yn donnau ardraws hefyd, ond nid mater sy'n trosgwyddo'r dirgryniadau ar gyfer y rhain ond meysydd trydanol a magnetig.
Mesur tonnau golygu
Mae nifer o unedau i'w mesur mewn ton:
- Tonfedd ( ) = Mesurir mewn metrau fel uned SI. Hyd un don gyfan yw tonfedd, ac fe'i mesurir o frig i frig neu o gafn i gafn.
- Amledd (f) = Mesurir mewn Hertz (Hz), sef maint y dirgryniadau mae'r don yn ei wneud pob eiliad
- Cyflymder (v) = Mesurir mewn metrau yr eiliad, dyma pa mor gyflym mae'r don yn symud.
- Osgled (y) = Yn gyffredinol, maint y newid i'r newidyn sy'n osgiladu, a achoswyd gan y don – er enghraifft, y pellter uchaf mae gronyn yn cael ei symud o'i fan cychwyn.
Hafaliad golygu
Mae perthynas syml yn bodoli rhwng amledd, tonfedd a chyflymder ton: