Ton Pentre

pentref yn Ne Cymru

Pentref yn Rhondda Cynon Taf yw Ton Pentre, weithiau Tonpentre. Saif yng nghwm Rhondda Fawr, yng nghymuned Pentre. Roedd y boblogaeth yn 2004 tua 1,028.

Ton Pentre
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPentre Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6461°N 3.4868°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS975953 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElizabeth (Buffy) Williams (Llafur)
AS/auChris Bryant (Llafur)
Map

Roedd yr ardal lle saif Ton Pentre yn wreiddiol yn glwstwr o hafotai, a elwid 'Y Ton'. Daeth y diwydiant glo yn bwysog yma o ganol y 19g ymlaen, gyda Glofa Maendy, a agorwyd yn 1864, yn Nhon Pentre yn un o gyflogwyr mwyaf yr ardal. Caeodd yn 1948.

Tanchwa Glofa'r Pentre golygu

Glofa arall oedd Glofa'r Pentre, ac yma ar 24 Chwefror 1871 y bu ffrwydriad enbyd a laddodd 36 o weithwyr a dau o'r tim achub. Yn ôl y cwest a ddilynnodd y tanchwa, nodwyd 'Ein bod yn unfrydol o’r farn bod y ffrwydrad wedi digwydd trwy ollyngiad sydyn o nwy a'i fod yn debygol o danio wrth y ffwrnais ac nad oes bai ar unrhyw un o’r swyddogion sy’n gysylltiedig â’r lofa.'[1][2][3]

Rhai o'r meirw:

  • Henry Backer, 36 blwydd oed, gwraig a 5 o blant.[4]
  • George Coburn, 32 blwydd oed, gwraig a 2 o blant.
  • Enoch Davies, 30 blwydd oed.
  • Robert Davies, 23 blwydd oed.
  • George Day,, 36 blwydd oed, married.
  • Samuel Evans, 29 blwydd oed.
  • Thomas Griffiths, 48 blwydd oed, gwraig a 8 o blant.
  • Henry Haines, 17 blwydd oed.
  • William Howells.
  • John Hughes, 34 blwydd oed.
  • James Jones, 20 blwydd oed.
  • Morgan Jones, 65 blwydd oed, gwraig a 7 o blant.
  • William Lewis, flueman, 38 blwydd oed.
  • William Meredith, 17 blwydd oed.
  • John Michael, 28 blwydd oed.
  • John Mills or Miles, 40 blwydd oed.
  • Daniel Morgan alias Park, 24 blwydd oed.
  • David Morgan, 28 blwydd oed.
  • William Rosser, 21 blwydd oed, dibriod.
  • John Sullivan, 28 blwydd oed.
  • Joseph Thomas, 30 blwydd oed, dibriod.
  • Walter Williams, 35 blwydd oed.

Clwb Pel-droed Ton Pentre golygu

Mae Ton Pentre yn gartref i C.P.D. Ton Pentre sydd wedi bod yn llwyddiannus yn Uwch Gynghrair Cymru ac yn enillydd sawl gwaith ar Cynghrair Cymru (Y De). Maent yn chwarae ar Barc Ynys.

Pobl o Don Pentre golygu

  1. Mines Inspectors Report, 1871. Mr. Thomas E. Wales.
  2. Colliery Guardian, 3rd March 1871, t.236, 24th Marthw, 1871, t.236.
  3. And they worked us to deat Cyfrola1&2. Ben Fieldhouse and Jackie Dunn. Gwent Family History Society.
  4. nmrs.org.uk; Northern Mine Research Society; adalwyd 24 Chwefror 2024.