Tony Hall

Gweithredwr ym myd y cyfryngau a chelf

Cyn-newyddiadurwr a gweithredwr darlledu o Sais yw Anthony William Hall, Barwn Hall o Benbedw, CBE (ganwyd 3 Mawrth 1951). Bu'n Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC rhwng Mawrth 2013[1] ac Awst 2020, ac yna yn Gadeirydd Ymddiriedolwyr y National Gallery hyd at 22 Mai 2021.[2]

Tony Hall
Ganwyd3 Mawrth 1951 Edit this on Wikidata
Penbedw Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, newyddiadurwr, person busnes, darlledwr Edit this on Wikidata
SwyddCyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, chair of the Royal Television Society, vice-chair of the Royal Television Society Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Roedd yn Gyfarwyddwyr Newyddion y BBC rhwng 1993 a 2001, a Phrif Weithredwr y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden, Llundain o 2001 hyd at Mawrth 2013.[3] Fe'i urddwyd yn Arglwydd am Oes a cymerodd ei sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi fel aelod croesfeinciol ar 22 Mawrth 2010.[4] Cychwynnodd ei swydd fel Cyfarwyddwyr-Cyffredinol y BBC ar 2 Ebrill 2013,[5] a sefodd lawr ar 31 Awst 2020, wedi ei ddilyn gan Tim Davie.

Yn 2021, cyhoeddwyd ymchwiliad annibynnol i honiadau am sut y gwnaeth Martin Bashir lwyddo, drwy ddulliau twyllodrus, i gael cyfweliad nodedig gyda Diana, Tywysoges Cymru yn 1995. Cynhaliodd Hall adolygiad mewnol i'r honiadau yn 1996 ond cymerodd Bashir wrth ei air ac fe gam-arweiniodd bwrdd y BBC gyda'i ddisgrifiad o sut y sicrhawyd y cyfweliad.[6] Ymddiswyddodd fel cadeirydd y National Gallery ar 22 Mai 2021.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Tony Hall appointed new BBC director general. BBC (22 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 22 Tachwedd 2012.
  2.  BBC yn penodi Tony Hall yn gyfarwyddwr cyffredinol. Golwg360 (22 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 25 Tachwedd 2012.
  3. "Tony Hall | British media executive". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 October 2017.
  4. John Plunkett "BBC director general Lord Hall to take charge on 2 April", The Guardian, 25 January 2013
  5. ‘A cover-up’: what the Dyson report said about the BBC and Martin Bashir , theguardian.co.uk, 20 Mai 2021. Cyrchwyd ar 22 Mai 2021.
  6. "Diana interview: Lord Hall resigns from National Gallery". BBC News (yn Saesneg). 22 May 2021. Cyrchwyd 22 Mai 2021.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato