Ardal faestrefol yn Llundain Fwyaf, Lloegr – yn rhannol ym Mwrdeistref Llundain Wandsworth, ac yn rhannol ym Mwrdeistref Llundain Merton – ydy Tooting. Saif tua 5 milltir (8 km) i'r de-dde-orllewin o ganol Llundain.[1]

Tooting
Mathardal o Lundain Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Llundain Wandsworth
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.428°N 0.165°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ275715 Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

 
Map yn dangos etholaeth Tooting ym Mwrdeistref Metropolitanaidd Wandsworth fel a ymddangosodd yn 1916.

Mae Tooting wedi bodoli ers cyn y Sacsonaidd. Gallai'r enw olygu pobl Tota, ac yn y cyd-destun hwn gallai Tota wedi bod yn bennaeth un o lwythi'r ardal. Fel arall, gallai'r enw darddu o'r ferf to tout, "i wylio allan", fel 'Twtil' yng Nghaernarfon. Efallai y bu gwylfan yma ar y ffordd i Lundain; felly "pobl y gwylfannau" 

Adeiladodd y Rhufeiniaid ffordd a alwyd wedyn yn Stane Street gan y Saeson, o Lundain (Londinium) i Chichester (Noviomagus Regnorum), a phasiodd drwy Tooting. Mae Ffordd Fawr Tooting High Street wedi ei adeiladu ar y ffordd yma. Yn amseroedd y Sacsoniaid, rhoddwyd Tooting a Streatham (yna Toting-cum-Stretham) i Abaty Cherstey (Abbey of Chertsey). Yn ddiweddrarch rhoddwyd holl neu o leiaf rhan o'r tir, i Suene (Sweyn), a goelwyd ei fod yn Lychlynnwr (Viking). Yn 933, credir bod Brenin Athelstan wedi cadarnhau fod y tiroedd gan gynnwys Totinge (Tooting) ym mherchnogaeth Abaty Chertsey.[2]

Ymddangosa Tooting yn Llyfr Dydd y Farn (1086) fel Toting: cedwid Lower Tooting o Chertsey Abbey gan Haimo y Siryf o Gaint pan oedd ei asedau yn 1 eglwys, 2 12 yn dir coch (tir aredig) a 5 acer (2 hectar) o ddôl. Galwyd y bobl yno i dalu pedair punt i'r penarglwyddi (overlords). Yn ddiweddarach yng nhyfnod y Normaniaid death i feddiant teulu'r De Gravenel, ac ar eu hôl hwyn fe'i ail-ennwyd  yn Tooting Graveness. Tan newidiadau bychan yn y 19fed ganrif roedd yn cynnwys 2 km2 (0.77 mi sgw).[3]

Am ganrifoedd gweinyddwyd Upper Tooting, neu Tooting Bec fel rhan o Streatham; roedd yma faenor a gadwyd gan Abaty Hellouin Bec, yn Normandi, ac ychwanegwyd y gair "Bec" i'r enw. Ei asedau, yn ôl Dydd y Farn oedd 5 croen lledr. Roedd yno bump a hanner tir âr (tir coch).[4]

Fel llawer o faestrefi de Llundain, datblygodd Tooting yn hwyr yn ystod Oes Fictoriana.[5] Digwyddodd rhan o'r datblygiad yn yr oes Edwardaidd a chafwyd datblygiad sylweddol arall yn ystod y 1920au â'r 1930au.

  • 1902: Agorwyd Llyfrgell Tooting fel adeilad unllawr. Ychwanegwyd ail lawr yn 1906.[6] Yn 2012 ail-adeiladwyd y llyfrgell.[7]
  • 1906: Agorwyd Tooting Bec Lido.[8]
  • 1930: Sefydlwyd ysbyty St Benedict's Hospital gan Gyngor Sir Llundain London County Council
  • 1931: Agorwyd sinema Granada cinema gyda perfformiad o Monte Carlo
  • 1954: Dechreuodd Ysbyty San Siôr/ St George's Hospital ail-leoli i Tooting o Hyde Park Corner, gan gymeryd trosodd Ysbytai Grove Fever a Fountain.[9]
  • 2003: Cwblhawyd ail-ddatblygiad Ysbyty San Sior/ St George's Hospital .

Gwleidyddiaeth golygu

Aelod Seneddol tros Tooting yw Dr. Rosena Allin-Khan (Y Blaid Lafur (DU)) ac fe'i hetholwyd yn gyntaf yn 2016 mewn is-etholiad i gynrychioli (etholaeth seneddol Tooting[10] yn dilyn etholiad ei rhaglynnydd Sadiq Khan yn Faer ym Mai 2016.

Ers sefydlu etholaeth seneddol Tooting mae'r sedd wedi'i ddal gan y Blaid Lafur.

Trafnidiaeth golygu

 
Arwydd 'tube' Tooting Broadway 

Mae Tooting wedi ei sefydlu ar y Northern line— gyda gorsafoedd ar ben a gwaelod y bryn sydd yn gwyro i lawr y Stryd Fawr, Tooting Bec a Tooting Broadway. Gwasanaethir Tooting gan reilffordd genedlaethol yn yr orsaf reilffordd sy'n darparu gwasanaeth uniongyrchol i Sutton drwy Wimbledon, ac i'r gogledd tuag at Farringdon, St Pancras ac ymlaen i Luton.

Mae yno nifer o gysylltiadau bws, gyda theithiau i ac o ganol Llundain, Croydon, Sutton a Kingston ymhlith eraill.[11]

Yn 2015 roedd gorsaf tanddaearol Tooting Broadway yn cael ei gysidro gan TfL fel gorsaf yn y dyfodol ar gyfer datblygiad Crossrail 2. Fel ychwanegiad ar y Northern Line, byddai hyn yn darparu Tooting gyda chysylltiad cyflym ac uniongyrchol i brif orsafoedd Llundain: e.e. Cyffordd Clapham Junction, Victoria, Tottenham Court Road ac Euston.[12]

Gorsafoedd Rheilffordd Agosaf golygu

  • Gorsaf reilffordd Tooting
  • Gorsaf reilffordd Mitcham Eastfields
  • Gorsaf reilffordd Balham
  • Gorsaf reilffordd Haydons Road

Ardal cadwriaeth golygu

Penodwyd stâd Totterdown Fields  yn ardal gadwriaeth, ar yr 19fed o Fedi 1978. Hon oedd y 'stâd fythynod' gyntaf a adeiladwyd gan Gyngor Sir Llundain/London County Council rhwng 1901 a 1911 yn cynnwys 1244 o dai unigol a adeiladwyd tros 38 acer (15 hecter).Roedd mudiadau Gardd-Ddinas Ebenezer Howard ac Arts and Crafts yn ddylanwadol ar ddylunio'r stâd.[13]

Mannau agored golygu

 
Haul tros Comin Tooting

Yn gorwedd ar begwn gogleddol Tooting mae ardal fawr, agored, a elwir yn boblogaidd fel Comin Tooting/ Tooting Commons. Yn hanesyddol, arferai'r ardal hon fod yn ddwy ardal ar wahanː Tooting Graveney Common (arferai fod ym mhlwyf Tooting Graveney), a Tooting Bec Common (arferai fod ym mhlwyf Streatham). Yma ceir Tooting Bec Lido, sydd yn 90 medr o hyd a 30 medr o led.

Chwaraeon golygu

Mae Tooting yn rhannu day glwb pêl-droed gyda thref gyfagos Mitcham: Tooting & Mitcham United F.C. a Tooting & Mitcham Wanderers FC.

Mae stadiwm rasio milgwn 'Wimbledon Stadium', ar Plough Lane ar y ffîn rhwng Tooting a Wimbledon. Mae gan AFC Wimbledon gynlluniau ar y gweill i adeiladu eu stadium newydd yno.

Marchnadau golygu

Mae gan Tooting ddwy farchnad dan-dô, gyda nifer o stondinau parhaol. Mae mynediad i'r ddwy farchnad ar yr un stryd, Tooting High Street, gyda prin medrau rhyngthynt. Mae gan y ddwy lawer math o stondinau, and mae un, Tooting Market, yn Asiaidd yn bennaf. Mae'r farchnad fwyaf, The Broadway Market, yn un o'r marchnadoedd dan-dô fwyaf yn Llundain gyda mwy na 90 stôl, ac yn gweithredu ers 1936.[14] Mae'r marchnadoedd yn tueddu i for yn fywiog iawn ar ddyddiau Sadwrn, ac yn agored tros y penwythnos heblaw ar wyliau cyhoeddus..

Pobl nodedig golygu

  • Stephen K Amos (b. 1967), Digrifwr
  • Steven Enever (b. 1970), Gwasanaethwr cyhoeddus
  • Sadiq Khan (b. 1970), Gwleidyddwr, Maer Llundain, cyn AS Tooting 
  • Darren Bent (b. 1984), Pêldroediwr proffesiynnol
  • Dave Clement (1948-1982), Pêldroediwr proffesiynnol
  • George Cole (1925-2015), Actor[15]
  • Girlschool, Band
  • Milton Jones (b. 1965), Digrifwr
  • Low-key (Gannwyd Kareem Dennis) (g. 1986), Cerddor, bardd, playwright, dramodydd, gweithredwr gwleidyddol
  • Ramona Marquez (b. 2001), Actores
  • Tony Meo (b. 1959), Chwaraewr snwcer proffesiynnol
  • Paul Merton (b. 1957), Digrifwr
  • Clinton Morrison (b. 1979), Pêldroediwr proffesiynnol
  • New Musik, Band
  • Gino Rea (b. 1989), Rasiwr Beic modur
  • Leroy Rosenior (b. 1964), Hyfforddiwr pêldroed proffesiynnol
  • Bas Savage (b. 1982), Pêldroediwr proffesiynnol
  • Tony Selby (b. 1938), Actor
  • Paul Sinha (b. 1970), Digrifwr a darlledwr
  • Snakefinger (1949-1987), Cerddor
  • Richard Strange (b. 1951), Cerddor
  • Jay Tabb (b. 1984), Pêldroediwr proffesiynnol
  • Quade Taylor (b. 1993), Pêldroediwr proffesiynnol
  • UK Subs, Band
  • Henning Wehn (b. 1974), Digrifwr
  • Jimmy White (b. 1962), Chwaraewr snwcer proffesiynnol
  • Matt Willis (b. 1983), Cerddor
  • Fuse ODG (b. 1988), Rapiwr

Cyfeirnodau diwylliannol golygu

Cyfeirir ffilm o'r Ealing Studios  Kind Hearts and Coronets (1949), gyda Alec Guinness, at Tooting Bec fel man lle roedd un o'r cymeiriadau'n byw. Roedd cyfres gomedi'r  BBC  Hugh & I (1962–67) yn seiliedig ar avenue ffuglennol Lobelia Avenue in Tooting.[16]

Roedd cyfres gomedi'r BBC  Citizen Smith (1977–80) yn seiliedig ar Tooting gyda'r cri a boblogeiddwyd  "Freedom for Tooting!"Prif gymeriad y gyfres oedd Wolfie Smith (Robert Lindsay), sef sylfaenydd sefydliad chwyldroadol sosialaidd ffuglennol y  Tooting Popular Front.[17]

Recordiodd Kitchens of Distinction (a ffurfiwyd yn yr ardal)  "On Tooting Broadway Station" ar eu halbwm The Death of Cool (1992).

Yn 2005, enwyd ceudwll 28 km o ddiamedr ar y blaned Mawrth ar ôl Tooting.[18] Mae map daeraegol  o Ceudwll Tooting yn cael ei baratoi, a gaiff ei gyhoeddi yn yr U.S. Geological Survey yn yr Unol Daleithiau.

Daeth cantores a chyfansoddwraig Albannaidd Sandi Thom i amlygrwydd yn dilyn ei  21 pherfformiad via'r wê o'i fflat islawr yn Tooting rhwng Chwefror a Mawrth 2006. Cyrrhaeddodd ei chan "I Wish I Was A Punk Rocker (With Flowers In My Hair)" rif 1 yn siartiau'r DU ar 2il Mehefin 2006.

Ymddangosir Tooting Bec yn y llyfr The Meaning of Liff, a ddiffinnwyd fel sefyllfa lle mae gyrrwr yn canu corn ei gar neu ei char at y car o'i f/blaen, dim ond i ddarganfod fod y car o'i f/blaen wedi ei barcio.

Mae'r ymadrodd "Ting Tong from Tooting" yn gystylliedig â chymeriad Ting Tong o sioe brasluniau comedi o'r DU  Little Britain.

Tooting oedd gosodiad i'r drama Brydeinig-Tamil 2013 o'r un enw Gangs of Tooting Broadway.[19]

Yn y ffilm Johnny English Reborn, mae Agent Tucker yn byw yn Tooting.

Gwnaed gyfres ddogfen lewyrchus Channel 4 24 Hours in A&E yn Ysbyty San Siôr/St George's Hospital yn Tooting.[20]

Cyfeiriadau golygu

  1. Yn draddodiadol, ystyrir Charing Cross fel canol Llundain, a mesurir pellteroedd i'r brifddinas o'r pwynt hwnnw.
  2.  Electronic Sawyer. Adalwyd ar 2016-05-21.
  3.  Samuel Lewis (editor) (1848). Tonbridge - Topsham. A Topographical Dictionary of England. Institute of Historical Research. Adalwyd ar 4 Tachwedd 2014.
  4.  Surrey Domesday Book. Adalwyd ar 2016-05-21.
  5.  The history of the borough - Listed buildings and borough history - Wandsworth Council. Adalwyd ar 2016-05-21.
  6.  Archived copy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 October 2014. Adalwyd ar 24 October 2014.
  7.  News. NPS Group. Adalwyd ar 2016-05-21.
  8.  Tooting Bec Lido. Time Out London. Adalwyd ar 2016-05-21.
  9.  History of St George's. Adalwyd ar 2016-05-21.
  10.  Dr Rosena Allin-Khan MP. UK Parliament. Adalwyd ar 2016-08-21.
  11.  Tfl Guide to Buses from Tooting Broadway. Transport for London. Adalwyd ar 2016-05-21.
  12.  Crossrail 2. Transport for London. Adalwyd ar 2016-05-21.
  13. Wandsworth Conservation & Design Group 2008.
  14.  Archived copy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 December 2013. Adalwyd ar 15 April 2015.
  15.  Obituary: George Cole. BBC News. Adalwyd ar 21 May 2016.
  16.  Television Heaven: Reviews. Adalwyd ar 2016-05-21.
  17.  BBC - Comedy - Citizen Smith. Adalwyd ar 21 May 2016.
  18.  Mars Geology: Tooting Crater. Adalwyd ar 2016-05-21.
  19.  Google. Tootingbroadwayfilm.com. Adalwyd ar 2016-05-21.
  20.  24 hours in A&E. Adalwyd ar 2016-05-21.