Tori-shima (Ynysoedd Izu)

Ynys Japaniaidd yn y Cefnfor Tawel yw Ynysoedd Izu (hefyd: Tori-shima a Izu-no-Tori-shima, sy'n llythrennol yn golygu "Ynys yr Aderyn"; mae'n ynys anghyfannedd, folcanig ac yn rhan o Ynysoedd Izu (Izu-shotō).[1]

Tori-shima
Mathvolcanic island Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôladeryn Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolIzu Islands Edit this on Wikidata
SirHachijō Subprefecture Edit this on Wikidata
GwladBaner Japan Japan
Arwynebedd4.78 ±0.01 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr392 metr Edit this on Wikidata
GerllawPhilippine Sea Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau30.48°N 140.3061°E Edit this on Wikidata
Hyd2.7 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethNatural Monument of Japan Edit this on Wikidata
Manylion

Daearyddiaeth golygu

Mae Tori-shima wedi ei leoli ym Môr y Pilipinas tua 600 kilometre (373 mi) i'r de o Tokyo a 76 kilometre (47 mi) i'r gogledd o Wraig Lot. Mae'r ynys gron yn cael eu rhestru fel llosgfynydd byw Dosbarth A gan Asiantaeth Feteorolegol Siapan.  Yr ynys yw'r rhan weledol uwch lefel y môr o'r losgfynydd danforol, gyda'i chaldera yn rhan ogleddol o'r ynys yn parhau i ffrwydro o dan y dŵr. Cofnodwyd gweithgaredd folcanig olaf ar yr ynys ei hun yn 2002, ynghlwm â  haid-ddaeargrynfeydd. Mae prif brig yr ynys, Io-zan (硫黄山) (硫黄山) gydag uchder o 349 o fedrau ac mae i'r ynys gylchedd o 6.5 km. Cyfanswm arwynebedd yr ynys yw 4.79 km sgwâr.

Hanes golygu

Roedd Tori-shima yn hysbys i bysgotwyr  a morwyr Siapan ers o leiaf y cyfnod Edo cynnar, ond roedd yn anghyfannedd heblaw am oroeswyr llongddrylliadau achlysurol. Yn 1841, fe llongddryllwiyd Nakahama Manjirō (14 oed) a phedwar o ffrindiau oedd yn dilyn llongddrylliadau ar Tori-shima hyd nes eu hachubwyd gan y long morfilo Americanaidd John Howland (Capten William H. Whitfield yn brif swyddog). Ysgrifennodd ac ymchwiliodd yr awdur llwyddiannus Siapanëaidd Akira Yoshimura  am tua 15 o achosion tebyg. Mae'r ynys ei hymsefydlu ers y cyfnod Meiji, gyda'r gweithgarwch economaidd  cynraddyn yn  casglu guano o'r niferus albatross cynffon-byr, sy'n defnyddio'r ynys fel eu tiroedd nythu. Bu ffrwydrad folcanig anferth ei gofnodi yn 1871. Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o Ynysoedd Ogasawara ers mis  Awst 1898, ond fe'i trosglwyddwyd  weinyddiaeth Hachijojima ym mis Ebrill 1901.Fe laddwyd y boblogaeth o 150 gan brif ffrwydrad folcanig. Ni chafodd Torishima erioed ei ailboblogi.

Ers y 1930au, mae Sefydlaid Adardeg Yamashina  wedi cymryd rôl weithgar iawn yn ymchwilio ac yn ceisio i gadw ac annog ail-dyfu niferoedd rhywogaethau lleol o adar môr, yn enwedig yr albatros gynffon-byr, a oedd gyda'i niferoedd wedi gostwng i tua 50 o adar erbyn 1933. Bu i Asiantaeth Feteorolegol Japan sefydlu gorsaf dywydd a gorsaf ymchwil folcanig ar yr ynys yn 1947, ond rhaid oedd  eu gadael yn 1965 o ganlyniad i weithgaredd folcanig a daeargrynfeydd. Ar Dachwedd 1af, cyhoeddwyd 1954 Tori-shima yn warchodfa adaryddol. Ychwanegwyd at y dynodiad hwn i fod yn Heneb Naturiol ddiogel cenedlaethol ar Fai 10fed, 1965. Gall dim ond ymweld â gwyddonwyr ymchwil gyda chaniatâd arbennig lanio ar yr ynys. Mae glanio yno'n  anodd iawn oherwydd y moroedd trwm a diffyg  traethau glanio a chyfleusterau addas. Mae teithiau cychod o amgylch yr ynys i weld yr adar yn boblogaidd, ond ni chaniateir i'r teithiau hyn lanio ar  yr ynys. Mae ymchwilwyr fel arfer yn teithio i'r ynys gan hofrennydd siartredig y llywodraeth.

Mae Tori-shima, ynghyd ag Ynysoedd Izu eraill, yn rhan swyddogol o Tokyo Metropolis, a hefyd  daent o fewn ffiniau  Parc Cenedlaethol Fuji-Hakone-Izu.

Fflora a ffawna golygu

Mae echdoriadau folcanig yn 1939 a 2002 wedi gosod y fflora ar Tori-shima yn ôl i gamau cychwynnol yn yr olyniaeth ecolegol. Planhigion er enghraifft y Vitex rotundifolia a hydrangea a gaiff eu gweld yn agos y draethlin, a Chrysanthemum pacificum a Phinwydden du Siapan yn gwarchod ardaloedd mewndirol, ond mae'r rhan fwyaf o rhan ganolog yr ynys yn parhau i fod fel y lludw folcanig a chraig.

Mae'r ynys yn gartref i sawl degau o filoedd o barau bridio o Pedryn Storm Tristram ac adar eraill megis  murrelet Saipanëaidd, yr albatros droed-ddu, y  cudyll coch cyffredinh a'r llindag graig-las. Ond yn y tymor byr mae poblogaeth yr albatros gynffon-byr wedi bod yn araf iawn i adennill, gyda'r adfywiad wedi cael ei  rwystro gan y presenoldeb o nifer fawr o lygod mawr du, yr unig mamaliaid sydd yn weddill ar yr ynys. Daw Morfilod cefngrwm a dolffiniaid yn aml i ymddangos o amgylch yr ynys yn ystod ymfudo ac yn ystod tymhorau cenhedlu.

Gweler hefyd golygu

  • Rhestr o llosgfynyddoedd yn Japan
  • Rhestr o ynysoedd Japan

Nodiadau golygu

Cyfeiriadau golygu

  • Teikoku Cyflawn Atlas o Japan, Teikoku-Shoin Co., Ltd. Tokyo 1990, ISBN 4-8071-0004-14-8071-0004-1

Dolenni allanol golygu

  Cyfryngau perthnasol Torishima ar Gomin Wicimedia

Cyfeiriadau golygu

  1. Nussbaum, Louis-Frédéric. (2005). "Torishima," Japan Encyclopedia, t. 987.