Tori James

llenor o Gymru

Tori James (ganwyd 1981) oedd y fenyw gyntaf o Gymru i ddringo Mynydd Everest, yn 25 oed.[1] Hefyd hi oedd y fenyw ieuengaf o Brydain erioed i gwblhau'r esgyniad.[2]

Tori James
Ganwyd1981 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, dringwr mynyddoedd, siaradwr ysgogol Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Gyrfa golygu

Mae Tori James yn awdur, siaradwr gwadd ac ymgynghorydd[3]. Mae hi'n cyflwyno hyfforddiant arweinyddiaeth a phrosiectau datblygu tîm ac ieuenctid. Mae hi'n byw yng Nghaerdydd. Ym mis Mehefin 2014 roedd James yn rhan o dîm Beeline Britain a ddaeth y cyntaf i deithio mewn llinell syth o Land’s End i John O’Groats er budd yr elusen BLESMA.[4][5] Mae James yn cynnal hyfforddiant ysgogol ar gyfer sefydliadau corfforaethol ac elusennol mewn sectorau gan gynnwys hedfan, entrepreneuriaeth a chwaraeon. Mae hi’n llysgennad ar gyfer Gwobr Dug Caeredin yng Nghymru a Girl Guiding UK.[6]

Gweithiau golygu

  • Peak Performance. Accent Press. 2013. ISBN 9781908917553.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. Morgan, Sion (31 January 2013). "Everest: How Tori James defied death to stand where no Welsh woman had stood before". Wales Online. Cyrchwyd 8 December 2016.
  2. "Meet the London Business School Everest team". London Business School student views. 28 May 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-24. Cyrchwyd 11 December 2016.
  3. "Podcast Interview Series: Tori James". British Exploring Society. November 30, 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-20. Cyrchwyd December 11, 2016.
  4. "Colin Jackson's Raise Your Game - Tori James". BBC Wales.
  5. "Tori James » About". www.torijames.com. Cyrchwyd 2016-12-08.
  6. Davies, Ruth (6 February 2016). "Pembrokeshire adventurer Tori James in running for top award". Western Telegraph. Cyrchwyd December 11, 2016.
  7. Owens, David (November 9, 2012). "Welsh adventurer Tori James on conquering Everest and North Pole". Wales Online. Cyrchwyd December 11, 2016.