Tour de France 1903

Tour de France 1903 oedd y Tour de France cyntaf erioed, a sefydlwyd a'i noddwyd gan bapur newydd L'Auto.

Tour de France 1903
Enghraifft o'r canlynolTour de France Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1 Gorffennaf 1903 Edit this on Wikidata
Daeth i ben19 Gorffennaf 1903 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganTour de France 1904 Edit this on Wikidata
Yn cynnwys1903 Tour de France, stage 1, 1903 Tour de France, stage 2, 1903 Tour de France, stage 3, 1903 Tour de France, stage 4, 1903 Tour de France, stage 5, 1903 Tour de France, stage 6 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Canlyniad Terfynol
1. Maurice Garin Baner Ffrainc Ffrainc 94awr33'14"
2. Lucien Pothier Baner Ffrainc Ffrainc +2awr49'21"
3. Fernand Augereau Baner Ffrainc Ffrainc +4awr29'24"
4. Rodolphe Muller Baner Yr Eidal Yr Eidal +4awr39'30"
5. Jean Fischer Baner Ffrainc Ffrainc +4awr58'44"
6. Marcel Kerff Baner Gwlad Belg Gwlad Belg +5awr52'24"
7. Julien Lootens Baner Gwlad Belg Gwlad Belg +9awr31'08"
8. Georges Pasquier Baner Ffrainc Ffrainc +10awr24'04"
9. François Beaugendre Baner Ffrainc Ffrainc +10awr52'14"
10. Aloïs Catteau Baner Gwlad Belg Gwlad Belg +12awr44'57"
11. Jean Dargassies Baner Ffrainc Ffrainc +13awr49'10"
12. Ferdinand Payan Baner Ffrainc Ffrainc +19awr09'02"
13. Julien Girbe Baner Ffrainc Ffrainc +23awr16'52"
14. Lechartier Baner Ffrainc Ffrainc +24awr05'13"
15. Josef Fischer Baner Yr Almaen Yr Almaen +25awr14'26"
16. A. Foureaux Baner Ffrainc Ffrainc +31awr50'52"
17. René Salais Baner Ffrainc Ffrainc +32awr34'43"
18. Emile Moulin Baner Ffrainc Ffrainc +49awr43'15"
19. Georges Borot Baner Ffrainc Ffrainc +51awr37'38"
20. Pierre Desvages Baner Ffrainc Ffrainc +62awr53'54"
21. Arsène Millocheau Baner Ffrainc Ffrainc +64awr57'08

Ysbrydolwyd y Tour gan lenyddiaeth, yn arbennig gan nofel Tour de France par Deux Enfants, ynddi mae dau fachgen yn teithio ogwmpas ffrainc. Cynnigwyd y syniad o'r ras gan y newyddiadurwr, Géo Lefèvre i'w olygydd, Henri Desgrange, a chafodd ei drafod yng nghafi, Café de Madrid, neu yn ôl rhai Taverne Zimmer (mae'r caffi wedi newid ei henw sawl gwaith), ym Mharis ar 20 Tachwedd 1902, datganwyd y ras yn gyhoeddus y mis Ionawr canlynol. Rhedwyd y ras er mwyn hybu gwerthiant y papur newydd.

Dechreuodd Tour 1903 gyda chymal Montgeron-Villeneuve-Saint-Georges, route de Corbeil ar 1 Gorffennaf, a gorffennodd gyda cymal Vile-d'Avray, restaurant du Père ar 19 Gorffennaf. Dim ond chwe cymal oedd yn y ras i gymharu a tua ugain yn y Tour yn y 21fed ganrif. ROedd y cymalau'n hir, y hiraf oedd rhwng Nantes a Paris - 471 kilomedr, y byrraf oedd rhwng Toulouse a Bordeaux - 268 kilomedr, i gymharu a chymalau Tour de France 2004, a oedd ar gyfertaledd, yn 171 kilomedr yr un. Dechreuodd chwe deg reidiwr ond dim ond 21 orffennodd. Enillodd yr enillydd 3 mil o ffranciau (tua 26,500 Euro yn arian heddiw).

Fel y journal organisateur, Géo Lefèvre oedd llywydd, beirniad a cheidwad amser y ras; Henri Desgrange oedd y directeur-général, er, ni ddilynodd y ras.

NId oedd unrhyw dimau yn y ras, roedd y reidwyr i gyd yn cystadlu yn unigol. Talwyd 10 ffranc gan pob reidiwr er mwyn cael rasio (tua 87.5 euro heddiw gyda chwyddiant yn ôl Geoffrey Wheatcroft).

Roedd y cymalau, ar gyfartaledd, yn 400 kilomedr o hyd, yn aml yn para i'r nos ac yn cymryd 24 awr iw cyflawni.

  • Montgeron: Cymerodd y cymal cyntaf 27 awr a 47 munud iw gyflawni gyda'r reidwyr yn seiclo drwy'r nos. Maurice Garin enillodd y cymal hwn gyda Emile Pagie yn ail munud yn ddiweddarach a Léon Georget yn drydydd. Ni orffenodd Hippolyte Aucouturier y cymal, ond caniatawyd ef i deithio ar y trên i ddechrau'r ail gymal.
  • Cymal 2: Lyon - Marseilles.
  • Cymal 3: Dechreuodd ar 8 Gorffennaf o Marseilles - Toulouse. Dim ond 32 o'r 60 reidiwr oedd ar ôl yn y ras erbyn hyn. Enillwyd y cymal gan Eugène Brange, Julien Lootens, Maurice Garin a Louis Pothier.
  • Cymal 4:Toulouse - Bordeaux. Roedd hwn yn gymharol fyr, 250 kilomedr, yn y cymal hwn digwyddodd damwain cyntaf y Tour de France pan redodd ci ar draws y ffordd gan achosi i grŵp o 15 ddisgyn. Penderfynnodd Hippolyte Aucouturier i roi'r gorau a cymerodd y trên i Paris.
  • Cymal 5: Bordeaux - Nantes.
  • Cymal 6: Nantes - Paris.

Enillodd Maurice Garin y ras mewn 94 awr 33 munud ac 14 eiliad, Louis Pothier oedd yn ail 2 awr 49 munud a 21 eiliad tu ôl iddo, Augereau oedd yn drydydd 4 awr 29 munud a 24 eiliad tu ôl i'r arwinydd. Y lanterne rouge (yr olaf i orffen) oedd Arsene Millocheau, a oedd 64 awr, 57 munud ac 8 eiliad tu ôl i Garin.

Dolenni Allanol golygu

1903 · 1904 · 1905 · 1906 · 1907 · 1908 · 1909 · 1910 · 1911 · 1912 · 1913 · 1914
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919 · 1920 · 1921 · 1922 · 1923 · 1924 · 1925 · 1926 · 1927 · 1928 · 1929 ·
1930 · 1931 · 1932 · 1933 · 1934 · 1935 · 1936 · 1937 · 1938 · 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947 · 1948 · 1949 · 1950 · 1951 · 1952 · 1953 · 1954 · 1955 · 1956 · 1957 · 1958 · 1959 · 1960 · 1961 · 1962 · 1963 · 1964 · 1965 · 1966 · 1967 · 1968 · 1969 · 1970 · 1971 · 1972 · 1973 · 1974 · 1975 · 1976 · 1977 · 1978 · 1979 · 1980 · 1981 · 1982 · 1983 · 1984 · 1985 · 1986 · 1987 · 1988 · 1989 · 1990 · 1991 · 1992 · 1993 · 1994 · 1995 · 1996 · 1997 · 1998 · 1999 · 2000 · 2001 · 2002 · 2003 · 2004 · 2005 · 2006 · 2007 · 2008 · 2009 · 2010 · 2011 · 2012 · 2013 · 2014 · 2015