Tour de France 2007

Tour de France 2007 oedd y 94ydd rhifyn o'r Tour de France. Cynhaliwyd rhwng 7 Gorffennaf a 29 Gorffennaf 2007. Dechreuodd gyda prologue yn Llundain, gan orffen yn ei leoliad traddodiadol o amgylch yr Arc de Triomphe a lawr y Champs-Élysées ym Mharis. Teithiodd y ras drwy Wlad Belg a Sbaen yn ogystal â Lloegr. Y reidiwr o Sbaen, Alberto Contador a enillodd y ras.

Tour de France 2007
Enghraifft o'r canlynolTour de France Edit this on Wikidata
Rhan o2007 UCI ProTour Edit this on Wikidata
Dechreuwyd7 Gorffennaf 2007 Edit this on Wikidata
Daeth i ben29 Gorffennaf 2007 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganTour de France 2006 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganTour de France 2008 Edit this on Wikidata
Yn cynnwys2007 Tour de France, Prologue, 2007 Tour de France, Stage 1, 2007 Tour de France, Stage 2, 2007 Tour de France, Stage 3, 2007 Tour de France, Stage 4, 2007 Tour de France, Stage 5, 2007 Tour de France, Stage 6, 2007 Tour de France, Stage 7, 2007 Tour de France, Stage 8, 2007 Tour de France, Stage 9, 2007 Tour de France, Stage 10, 2007 Tour de France, Stage 11, 2007 Tour de France, Stage 12, 2007 Tour de France, Stage 13, 2007 Tour de France, Stage 14, 2007 Tour de France, Stage 15, 2007 Tour de France, Stage 16, 2007 Tour de France, Stage 17, 2007 Tour de France, Stage 18, 2007 Tour de France, Stage 19, 2007 Tour de France, Stage 20 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Datganwyd y byddai'r ras yn dechrau yn Llundain gan drefnwyr y Tour a Maer Llundain, Ken Livingstone, ar 24 Ionawr 2006. Dywedodd Livingstone y byddai'r ddau gymal yn Llundain yn coffau dioddefwyr bomiau Llundain 7 Gorffennaf 2005: "Having the Grand Départ on the seventh of July will broadcast to the world that terrorism does not shake our city."

Cafodd llwybrau'r Prologue a'r cymal gyntaf drwy Caint i Caergaint eu datgan ar 9 Chwefror 2006 yng Nghanolfan Cynhadledd y Frenhines Elisabeth II. Dyma oedd y drydedd tro i'r Tour ymweld â Lloegr, ar ôl iddi fynd trwy Plymouth yn 1974 a Chaint, Sussex a Hampshire yn 1994).

Dadorchuddwyd llwybr gyfan ras 2007 gan gyfarwyddwr y Tour, Christian Prudhomme ym Mharis ar 26 Hydref 2006. Roedd y ras yn gyfanswm o 3,569.9 cilomedr (2,218.2 milltir).[1]

Cafodd y Tour ei amharu gan ymrysonau cyffuriau, gyda thri reidiwr a thri tîm yn tynnu allan o'r ras ar ôl profion cyffuriau positif, gan gynnwys y ffefryn cyn y ras, Alexandre Vinokourov a'i dîm Astana. Yn dilyn cymal 16, cafodd gwisgwr y Crys Melyn, Michael Rasmussen, ei dynnu allan o'r Tour gan ei dîm Rabobank, a oedd yn ei gyhuddo o ddweud celwydd ynglŷn â pham fethodd sawl prawf cyffuriau yn gynt yn y flwyddyn.

Enillodd Tom Boonen y Crys Gwyrdd ar gyfer cystadleuaeth pwyntiau'r sbrintwyr am y tro cyntaf, wedi iddo fethu a cwblhau'r ras a thynnu allan yn 2005 a 2006 tra roedd yn arwain y gystadleuaeth bwyntiau. Gwobrwywyd y Crys Dot Polcai'r dringwr gorau, Mauricio Soler, y tro cyntaf iddo gystadlu yn y Tour.

Enillwyd y Crys Melyn, a roddir i'r arweinydd cyffredinol, gan Alberto Contador. Roedd yn ras agos iawn hyd y treial amser yng nghymal 19, a daeth Cadel Evans yn ail, a Levi Leipheimer yn drydydd, gyda'r tri ond 31 eiliad arwahan, y gwahaniaeth lleiaf erioed. Enillodd Alberto Contador y Crys Gwyn hefyd, gan mai ef oedd y reidiwr ifanc gorau (o dan 25).

Cymalau golygu

Cymal Dyddiad Dechrau - Gorffen Pellter Math
P 7 Gorffennaf London 7.9 km   Treial Amser Unigol
1 8 Gorffennaf London - Caergaint 203 km   Cymal Gwastad
2 9 Gorffennaf Dunkirk - Ghent 168.5 km   Cymal Gwastad
3 10 Gorffennaf Waregem - Compiègne 236.5 km   Cymal Gwastad
4 11 Gorffennaf Villers-Cotterêts - Joigny 193 km   Cymal Gwastad
5 12 Gorffennaf Chablis - Autun 182.5 km   Cymal Trawsnewid
6 13 Gorffennaf Semur-en-Auxois - Bourg-en-Bresse 199.5 km   Cymal Gwastad
7 14 Gorffennaf Bourg-en-Bresse - Le Grand-Bornand 197.5 km   Cymal Mynyddig
8 15 Gorffennaf Le Grand-Bornand - Tignes 165 km   Cymal Mynyddig
G 16 Gorffennaf Diwrnod Gorffwys
9 17 Gorffennaf Val-d'Isère - Briançon 159.5 km   Cymal Mynyddig
10 18 Gorffennaf Tallard - Marseille 229.5 km   Cymal Gwastad
11 19 Gorffennaf Marseille - Montpellier 182.5 km   Cymal Gwastad
12 20 Gorffennaf Montpellier - Castres 178.5 km   Transition Cymal
13 21 Gorffennaf Albi 54 km   Treial Amser Unigol
14 22 Gorffennaf Mazamet - Plateau-de-Beille 197 km   Cymal Mynyddig
15 23 Gorffennaf Foix - Loudenvielle 196 km   Cymal Mynyddig
G 24 Gorffennaf Diwrnod Gorffwys
16 25 Gorffennaf Orthez - Gourette-Col d'Aubisque 218.5 km   Cymal Mynyddig
17 26 Gorffennaf Pau - Castelsarrasin 188.5 km  Transition Cymal
18 27 Gorffennaf Cahors - Angoulême 211 km   Cymal Gwastad
19 28 Gorffennaf Cognac - Angoulême 55.5 km   Treial Amser Unigol
20 29 Gorffennaf Marcoussis - Paris Champs-Élysées 146 km   Cymal Gwastad
Cyfanswm 3,569.9 km

Arweinwyr y dosbarthiadau golygu

Cymal Enillydd Dosbarthiad cyffredinol
 
Maillot jaune
Dosbarthiad Pwyntiau
 
Maillot vert
Brenin y Mynyddoedd
 
Maillot à pois rouges
Reidiwr Ifanc
 
Maillot blanc
Dosbarthiad Tîm
 
Classement par équipe
Gwobr Brwydrol
 
Prix de combativité
P Fabian Cancellara Fabian Cancellara Fabian Cancellara dim gwobr Vladimir Gusev Astana dim gwobr
1 Robbie McEwen Robbie McEwen David Millar Stéphane Augé
2 Gert Steegmans Tom Boonen Marcel Sieberg
3 Fabian Cancellara Stéphane Augé Mathieu Ladagnous
4 Thor Hushovd Matthieu Sprick
5 Filippo Pozzato Erik Zabel Sylvain Chavanel Team CSC Sylvain Chavanel
6 Tom Boonen Tom Boonen Bradley Wiggins
7 Linus Gerdemann Linus Gerdemann Linus Gerdemann T-Mobile Team Linus Gerdemann
8 Michael Rasmussen Michael Rasmussen Michael Rasmussen Rabobank Michael Rasmussen
9 Mauricio Soler Alberto Contador Caisse d'Epargne Yaroslav Popovych
10 Cédric Vasseur Team CSC Patrice Halgand
11 Robert Hunter Benoît Vaugrenard
12 Tom Boonen Amets Txurruka
13 Cadel Evans* Astana dim gwobr
14 Alberto Contador Discovery Channel Antonio Colom
15 Kim Kirchen* Astana Alexander Vinokourov
16 Michael Rasmussen Mauricio Soler Discovery Channel Mauricio Soler
17 Daniele Bennati Alberto Contador Jens Voigt
18 Sandy Casar Sandy Casar
19 Levi Leipheimer dim gwobr
20 Daniele Bennati Freddy Bichot
Terfynol Alberto Contador Tom Boonen Mauricio Soler Alberto Contador Discovery Channel Amets Txurruka

Cyfeiriadau golygu

  1.  The Route. letour.fr.

Dolenni allanol golygu

1903 · 1904 · 1905 · 1906 · 1907 · 1908 · 1909 · 1910 · 1911 · 1912 · 1913 · 1914
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919 · 1920 · 1921 · 1922 · 1923 · 1924 · 1925 · 1926 · 1927 · 1928 · 1929 ·
1930 · 1931 · 1932 · 1933 · 1934 · 1935 · 1936 · 1937 · 1938 · 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947 · 1948 · 1949 · 1950 · 1951 · 1952 · 1953 · 1954 · 1955 · 1956 · 1957 · 1958 · 1959 · 1960 · 1961 · 1962 · 1963 · 1964 · 1965 · 1966 · 1967 · 1968 · 1969 · 1970 · 1971 · 1972 · 1973 · 1974 · 1975 · 1976 · 1977 · 1978 · 1979 · 1980 · 1981 · 1982 · 1983 · 1984 · 1985 · 1986 · 1987 · 1988 · 1989 · 1990 · 1991 · 1992 · 1993 · 1994 · 1995 · 1996 · 1997 · 1998 · 1999 · 2000 · 2001 · 2002 · 2003 · 2004 · 2005 · 2006 · 2007 · 2008 · 2009 · 2010 · 2011 · 2012 · 2013 · 2014 · 2015