Taith Prydain

(Ailgyfeiriad o Tour of Britain)

Taith Prydain (Cymraeg Tour of Britain) yw'r enw a roddir i ras seiclo ffordd a gynhelir dros sawl cymal ac sy'n mynd ar daith ar draws Prydain Fawr. Mae'r ras yn cynnwys tîmau o'r Alban a Chymru, yn ogystal â thîm Prydain Fawr, ond yn ddiweddar nid oes dim tîm Lloegr wedi cymryd rhan yn y ras. Mae'r fersiwn diweddaraf o'r ras yn ras cymalau broffesiynol, a redwyd gyntaf yn 2004, ond mae hanes y ras yn mynd yn ôl i 1951.

Taith Prydain
Enghraifft o'r canlynolrasio dros ddyddiau Edit this on Wikidata
Math2.Pro Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2004 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysTour of Britain 2004, Tour of Britain 2005, Tour of Britain 2006, Tour of Britain 2007, Tour of Britain 2008, 2009 Tour of Britain, 2010 Tour of Britain, 2011 Tour of Britain, 2012 Tour of Britain, 2013 Tour of Britain, 2014 Tour of Britain, 2015 Tour of Britain, 2016 Tour of Britain, 2017 Tour of Britain, 2018 Tour of Britain, 2019 Tour of Britain, 2021 Tour of Britain, 2022 Tour of Britain, 2023 Tour of Britain, 2024 Tour of Britain Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.tourofbritain.co.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r Tour of Britain yn rhan o'r UCI Europe Tour. Yn 2009, daeth yr Elusen Cancr Prostad yn Bartner Elusennol Swyddogol ar gyfer y ras.[1]

Hanes golygu

Gan nodi cyfraniad pob noddwr ariannol, mae'r ras wedi newid ei henw sawl gwaith ar hyd y blynyddoedd:

Enillodd yr Albanwr Ian Steel ras 1951. Seiclwr arall i rasio y flwyddyn honno oedd Jimmy Savile, a ddaeth yn DJ enwog a phersonoliaeth teledu yn ddiweddarach. Trefnwyd ras 1955 gan y British League of Racing Cyclists.
Yn anterth ei phoblogrwydd, roedd y ras hwn yn gymharol mewn statws i'r Peace Race, ac roedd timau rhyngwladol yn cystadlu ynddi. O tua 1983 ymlaen, roedd y ras hefyd yn agored i dimau proffesiynol. Cefnogodd y Bwrdd Marchnata Llefrith y Scottish Milk Race hefyd, taith lai yn yr Alban.
Rhai o'r enillwyr: Malcolm Elliot (1988), Robert Millar (1989), Phil Anderson (1991, 1993), Max Sciandri (1992) ac yn ei flwyddyn olaf, Maurizio Fondriest.
Enillodd Stuart O'Grady (Crédit Agricole) yn 1998; a Marc Wauters (Rabobank) yn 1999.

Y ras gyfoes golygu

 
Cymal 3 o ras 2005 yn mynd drwy Honley, ger Huddersfield

Tour of Britain 2004 golygu

Cynhaliwyd y ras gyntaf o'r fersiwn diweddaraf o'r Tour of Britain dros bum diwrnod yn nechrau mis Medi 2004. Trefnwyd hi gan SweetSpot ynghyd â British Cycling. Cefnogwyd y ras gan drefnwyr Cais Llundain ar gyfer Gemau Olympaidd 2012. Roedd yn ras a hysbyswyd yn eang iawn, a chafodd timau adnabyddus megis T-Mobile (Yr Almaen) a U.S. Postal Service (UD) eu denu i gymryd rhan. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod y ras yng nghategori 2.3 ar galendar rasio'r Union Cycliste Internationale (UCI).

Gorffenodd taith 2004 gyda criterium 45 milltir (72 km) yn Llundain, gwyliodd degoed o filoedd o bobl brêc hir gan y Llundeiniwr Bradley Wiggins, tan y lap cyn yr un olaf, a chymerodd Enrico Degano o dîm Tîm Barloworld y sbrint ar y linell. Enillodd y Colombiwr Mauricio Ardila, o dîm Chocolade Jacques, y Tour.

Tour of Britain 2005 golygu

Rhedwyd Tour of Britain 2005 fel ras UCI categori 2.1 dros 6 cymal, gan ddechrau yn Glasgow ar 30 Awst a gorffen yn Llundain ar 4 Medi. Enillwyd y dosbarthiad cyffredinol gan y seiclwr Belgaidd Nick Nuyens. Cipiodd yr Eidalwr Luca Paolini y grys werdd ar gyfer y gystadleuaeth bwyntiau.

Tour of Britain 2006 golygu

 
Roger Hammond yn Tour of Britain 2006 yn Llundain

Cymerodd Tour of Britain 2006 le ar 29 Awst hyd 3 Medi fel ras UCI categori 2.1. Enillodd Martin Pedersen y ras a chymerodd Andy Schleck o Dîm CSC gystadleuaeth brenin y mynyddoedd. Enillodd Mark Cavendish (T-Mobile) y gystadleuaeth bwyntiau a cymerodd Johan Van Summeren (Davitamon-Lotto) y gystadleuaeth sbrint.

Tour of Britain 2007 golygu

Ymestynwyd y ras i saith diwrnod ar gyfer 2007, defnyddiwyd y seithfed diwrnod ar gyfer cymal yn Ngwlad yr Haf am y tro cyntaf.

Yn lle gorffen yn Llundain, dechreuodd ras 2007 yno a gorffenodd yn Glasgow, a ddefnyddiodd y digwyddiad fel hwb iw cais ar gyfer lleoliad Gemau'r Gymanwlad yn 2014.

Enillodd Romain Feillu y Tour, a cipiodd Mark Cavendish y gystadleuaeth bwyntiau a Ben Swift gystadleuaeth brenin y mynyddoedd.

Tour of Britain 2008 golygu

Cynyddodd y ras i wyth diwrnod ra gyfer 2008, gyda wyth cymal. Cynhaliwyd o 7 hyd 14 Medi, gan gychwyn yn Llundain a gorffen yn Lerpwl.[2]

Tour of Britain 2009 golygu

Roedd y chweched rhifyn o'r Tour of Britain hefyd yn wyth diwrnod o hyd, o 12–19 Medi. Cychwynodd y ras yn Scunthorpe a gorffennodd yn Llundain.

Tour of Britain 2010 golygu

Cynhaliwyd ras 2010 o 11–18 Medi.

Tour of Britain 2011 golygu

Cynhaliwyd ras 2011 o 11–18 Medi. Roedd 8 cymal i fod, ond gorfodwyd diddymu ail gymal y ras oherwydd ffrynt o dywydd gwael a groesodd y Môr Iwerydd yn dilyn Corwynt Irene.

Tour of Britain 2012 golygu

Cynhaliwyd ras 2011 o 9–16 Medi.[3] Enillwyd y ras n wreiddiol gan Jonathan Tiernan-Locke, y reidiwr cyntaf o Brydain i'w ennill ers ei ail-gyflwyniad yn 2004. Collodd Tiernan-Locke y teitl hwn yn 2014, pan gahodd ei wahardd hrag cytadlu am ddwy flynedd yn dilyn ymchwiliad i anghysondebau yn ei basbort biolegol.[4] Cafodd y fuddugoliaeth ei wobrwyo yn hytrach i Nathan Haas o Awstralia.[5]

Tour of Britain 2013 golygu

Dychwelodd y ras i Surrey ar gyfer y ddegfed rhifyn, a gynhaliwyd o 15–22 Medi,[6] ac enillwyd gan Syr Bradley Wiggins.[7]

Tour of Britain 2014 golygu

Roedd y rhifyn yma'n ran o'r 2014 UCI Europe Tour, a dynodwyd am y tro cyntaf gan yr UCI fel ras categori 2.HC.[8][9] Cynhaliwyd y ras 2011 o 7–14 Medi. Cynhaliwyd ras gyfatebol ar gyfer merched am y tro cyntaf y flwyddyn hon, sef The Women's Tour, yn gynharach yn y tymor o 7–11 Mai 2014.

Tour of Britain 2015 golygu

Ar 6 Medi, cychwynnodd y ras yng Nghymru am y tro cyntaf, gan deithio o Fiwmares i Wrecsam, a gorffen yn Llundain fel arfer ar 13 Medi.

Cyfeiriadau golygu

  1. Tour Ride
  2.  The Route. The Tour of Britain (16 Mai 2008). Adalwyd ar 27 Gorffennaf 2008.
  3. "Tour of Britain 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-22. Cyrchwyd 2015-09-10.
  4. "Team Sky's Jonathan Tiernan-Locke gets two-year doping ban". BBC Sport. 17 July 2014.
  5. "Sir Bradley Wiggins to defend Tour of Britain title". BBC Sport. 2 September 2014. 2012 Nathan Haas (Aus) ... Britain's Jonathan Tiernan-Locke had title stripped for doping offence
  6. UCI Europe Tour calendar Archifwyd 2013-07-01 yn y Peiriant Wayback., accessed 25 September 2012
  7. Cycling Weekly 18 Medi 2012
  8. Cycling Weekly (31 March 2014). "Tour of Britain 2014 route revealed". Cycling Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 30 April 2014.
  9. "Tour of Britain upgraded to 2.HC status by UCI". Cyclingnews.com. Future plc. 4 February 2014. Cyrchwyd 2 May 2014.

Dolenni allanol golygu