Mesur syml o'r Oesoedd Canol a gafodd ei ddatblygu i ffurfio'r cywydd yw'r traethodl.

Yn ei hanfod, cwpled o ddwy linell saith sillaf yr un yn odli yw'r traethodl. Roedd yn fesur digynghanedd a gysylltir â gwaith y beirdd isradd neu werinaidd a adweinir fel y Glêr.

Daw'r cywydd i'r golwg yng ngwaith y beirdd yn hanner cyntaf y 14g. Mae Thomas Parry yn damcaniaethu y cafodd y traethodl ei gywreinio trwy ychwanegu cynghanedd a'i ddatblygu i ffurfio'r cywydd ar ddechrau'r 14g.[1] Ceir enghraifft gynnar ohoni yng ngwaith y cywyddwr cynnar Dafydd ap Gwilym yn y gerdd a adnabyddir fel 'Y Bardd a'r Brawd Llwyd':

Merch sydd decaf blodeuyn
Yn y nef ond Duw ei hun.
O wraig y ganed pob dyn
O'r holl bobloedd ond tridyn.[2]

Sylwer fod y Brawd Llwyd (mynach yn perthyn i Urdd y Ffransisgiaid) ei hun yn un o'r clerici (clerigwyr), gair sy'n gyfrifol efallai am yr enw Clêr. Er bod canu o bob math ar fesur y traethodl, roedd yn haws i'w ddefnyddio ar gyfer cerddi didactig na'r mesurau eraill, am ei fod yn llai cymhleth o lawer, ac felly'n cael ei ddefnyddio mewn cerddi crefyddol traethyddol hefyd.

Parhaodd y traethodl i gael ei ddefnyddio mewn canu ysgafnach na'r rheol gan Feirdd yr Uchelwyr.

Cyfeiriadau golygu

  1. Thomas Parry, rhagymadrodd i Englynion a Chywyddau gol. Aneirin Talfan Davies (Llyfrau'r Dryw).
  2. Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, ail argraffiad, 1963), Cerdd 137.