Trafynyddiaeth (o'r Lladin ultramontanus, 'y tu draw i'r mynyddoedd', h.y. 'yn Yr Eidal') yw'r syniad neu duedd o fewn yr Eglwys Gatholig fod grym ac awdurdod y Pab a'r Curia Romana (llys eglwysig y Fatican) yn uwch nag unrhyw fudiad cenedlaethol neu genedlaetholgar, er enghraifft Galicaniaeth yn Ffrainc, neu awdurdod eglwysig lleol yn yr Eglwys.

Trafynyddiaeth
Mathideoleg wleidyddol, carfan meddwl Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Crefydd/EnwadCatholigiaeth Edit this on Wikidata

Ystyrir fod Trafynyddiaeth wedi cyrraedd ei huchafbwynt yn 1870 gyda datganiad yr athrawaeth fod awdurdod y Pab yn anffaeledig. Ond ers hynny mae'r eglwys wedi symud yn gyffredinol i'r cyfeiriad arall, gyda mwy o ryddid i awdurdodau eglwysig lleol ac eglwysi cenedlaethol neu ranbarthol, yn arbennig ers Ail Gyngor y Fatican (1962-1965).

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: trafynyddiaeth o'r Saesneg "ultramontanism". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.