Tramffordd y Gogarth

tramffordd yn Llandudno

Tramffordd hanesyddol led 3 troedfedd 6 modfedd[1] ar Ben y Gogarth, Llandudno, gogledd Cymru, yw Tramffordd y Gogarth (Saesneg: Great Orme Tramway). Mae'n rhedeg o orsaf yn rhan uchaf tref Llandudno i'r caffi a gwylfa ar y copa, gyda gorsaf arall hanner ffordd i fyny lle mae rhaid i deithwyr newid i dram arall. Mae'r cerbydau'n cysylltiedig i'r gablen trwy'r amser, felly tramffordd ffwniciwlar yw hi.[1]

Tramffordd y Gogarth
Mathrheilffordd ffwniciwlar, tram system Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1902 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3321°N 3.8544°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Edit this on Wikidata
Map
Tramffordd y Gogarth

Hanes golygu

Pasiwyd Deddf Tramffyrdd y Gogarth ym 1898 i gludo teithwyr a nwyddau (gan gynnwys eirch i fynwent Eglwys Sant Tudno. Dechreuodd gwaith adeiladu ym 1901, ac agorwyd hanner is y tramffordd ar 31 Gorffennaf 1902. Agorwyd yr hanner arall ar 8 Gorffennaf 1903. Gwerthwyd y tramffordd i Gwmni Rheilffordd y Gogarth yn dilyn damwain ym 1932. Ailagorwyd y tramffordd ym 1934. Trosglwyddodd perchnogaeth i Gyngor Dosbarth Trefol Llandudno ym 1949. Defnyddiwyd pŵer trydanol yn hytrach na stêm, o 1957 ymlaen. Oherwydd aildrefniant llywodraeth leol, rheolwyd y dramffordd gan Gyngor Sir Aberconwy o 1974, ac o 1977 gan Gyngor Bwrdeistref Conwy.[2]

Oriel luniau golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am dramffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.