Treblinka yw'r enw a roddir ar ddau wersyll crynhoi a ddefnyddid gan lywodraeth Natsïaidd yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Safai'r gwersylloedd gerllaw pentref Treblinka yng Ngwlad Pwyl. Roedd Treblinka I yn wersyll gwaith, a Treblinka II yn wersyll difa. Lladdwyd tua 900,000 o bobl yma, sy'n ei roi yn ail ar ôl Auschwitz o ran y nifer o bobl a laddwyd.

Treblinka
Enghraifft o'r canlynolgwersyll difa, gwersyll crynhoi Natsïaidd Edit this on Wikidata
Daeth i ben1943 Edit this on Wikidata
Lladdwyd800,000 ±100000 Edit this on Wikidata
Map
GweithredwrSS-Totenkopfverbände Edit this on Wikidata
Enw brodorolSS-Sonderkommando Treblinka Edit this on Wikidata
RhanbarthKosów Lacki Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cofgolofnau yn Treblinka II

Adeiladwyd Treblibka 1 yn haf 1941, gyda Phwyliaid ac Iddewon fel carcharorion. Dechreuwyd adeiladu Treblinka II ym mis Mai 1942, ac ym mis Awst gwnaed Franz Stangl yn gyfrifol am y gwersyll. Daeth y lladd yn Treblinka II i ben yn Awst 1943, a chwalwyd y gwersyll, gan ail-ffurfio'r tir i geisio cuddio ei fodolaeth. Chwalwyd Treblinka I yn 1944 wrth i'r Fyddin Goch agosau.

Gweler hefyd golygu