Trefdraeth, Ynys Môn

pentef ar Ynys Môn

Plwyf eglwysif a phentrefan yng nghymuned Bodorgan, Ynys Môn yw Trefdraeth. Mae 129.6 milltir (208.6 km) o Gaerdydd a 214.5 milltir (345.2 km) o Lundain.

Trefdraeth
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.205°N 4.388°W, 53.2°N 4.4°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH406702 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map
Am y pentref o'r un enw yn Sir Benfro, gweler Trefdraeth, Sir Benfro.

Hanes y plwyf golygu

Saif y plwyf yn hen gwmwd Malltraeth, ac mae'n rhan o Ddeoniaeth Menai a Malltraeth. Llangwyfan yw eglwys y plwyf.

Mae'r enw Trefdraeth yn golygu "tref yn ymyl y traeth". Roedd yn lle pwysig gynt yn ystod Oes y Tywysogion am ei fod mor agos i Aberffraw a llys tywysogion Gwynedd. Yn yr Oesoedd Canol rhennid y dref rhwng Tref(draeth) Ddisteiniaid a Thref(draeth) Wastrodion, sef tir a berthynai i'r distain ("stiward" y llys) ac i'r gwastrod ("gofalwr y meirch" yn y llys).

Roedd Trefdraeth gynt yn rhan o gwmwd Malltraeth a oedd yn ei dro, gyda chwmwd Llifon, yn rhan o gantref Aberffraw (gweler Cantrefi a Chymydau Cymru).

Roedd gan Meilyr Brydydd a'i ddisgynyddion Gwalchmai ap Meilyr, Meilyr ap Gwalchmai, Einion ap Gwalchmai, ac efallai Elidir Sais yn ogystal, ddaliadau tir yn Nhrefdraeth.

Mae Trefignath yn siambr gladdu Neolithig ger Trearddur, Gaergybi ar yr Ynys Sanctaidd

Pobl o Drefdraeth golygu

Eglwys Sant Beuno golygu

Mae Eglwys Sant Beuno yn eglwys plwyf, ganoloesol a cheir cofnod gan Angharad Llwyd (1780–1866) i'r egwlys wreiddiol gan ei godi yma yn 616. Ond nid oes unrhyw ran o unrhyw strwythur ohoni'n tarddu o'r 7g wedi goroesi; mae'r rhannau hynaf o'r adeilad presennol o'r 13g. Gwnaed newidiadau yn y canrifoedd dilynol gydag ychydig ohonynt yn ystod y 19g, adeg pan gafodd nifer o eglwysi eraill Ynys Môn eu hailadeiladu neu eu hadfer.

Tu allan golygu

Cynrychiolaeth etholaethol golygu

Cynrychiolir Trefdraeth yn Senedd Cymru gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Virginia Crosbie (Ceidwadwyr).[1][2][3][4]

Cafoddei gofrestru yn Gradd II* gan Cadw.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. What is listing? (PDF). Cadw. 2005. t. 6. ISBN 1-85760-222-6. Archifwyd o'r gwreiddiol (pdf) ar 2012-04-17. Cyrchwyd 2018-09-04.
  4. Cadw (2009). "Church of St. Beuno (Eglwys Beuno Sant)". Historic Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-31. Cyrchwyd 21 Medi 2011.