Trefil

pentref ym Mlaenau \||Gwent

Pentref bychan gwledig yng nghymuned Tredegar, bwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Trefil.[1][2] Saif yn rhan uchaf Dyffryn Sirhywi, tua 3 milltir i'r gogledd-orllewin o Dredegar yn rhan uchaf y sir. Mae ffin ddeheuol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gorwedd milltir i'r gogledd o'r pentref. Mae'n rhan o blwyf eglwysig Dukestown.

Trefil
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBlaenau Gwent Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8048°N 3.2765°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO120125 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAlun Davies (Llafur Cymru)
AS/auNick Smith (Llafur)
Map

Yn ôl yr Arolwg Ordnans, Trefil yw'r pentref uchaf yng Nghymru[3]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Alun Davies (Llafur Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Nick Smith (Llafur).[4][5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 9 Rhagfyr 2021
  3. Gwefan newyddion y BBC, 23.12.2015
  4. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014