Trefynwy

tref a chymuned yn Sir Fynwy

Tref hanesyddol a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Trefynwy[1][2] (Saesneg: Monmouth). Dyma brif dref y sir. Saif ar lannau Afon Mynwy, tua 2 filltir (3.2 km) o'r ffin â Lloegr. Saif y dref 36 milltir (58 km) i'r gogledd-ddwyrain o Gaerdydd a 127 m (204 km) i'r gorllewin o Lundain. Mae'n fwy na thebyg mai "Aber Mynwy" oedd yr enw gwreiddiol a cheir cofnod ohono'n dyddio nôl i 1136 (Aper Myngui ac Aper Mynuy). Yn ôl Cyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 8,547. Ymroella Llwybr Treftadaeth Trefynwy drwy'r dref.

Trefynwy
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Mynwy Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iCarbonne, Waldbronn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Gwy, Afon Mynwy Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.81°N 2.72°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001076 Edit this on Wikidata
Cod OSSO505125 Edit this on Wikidata
Cod postNP25 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map

Enw'r papur bro lleol ydy Newyddion Mynwy sy'n cael ei gyhoeddi yn achlysurol gan Cymdeithas Gymraeg Trefynwy a'r cylch. [3]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan David Davies (Ceidwadwr).[5]

Hanes golygu

Oes Newydd y Cerrig golygu

Nodweddir Oes Newydd y Cerrig, neu'r cyfnod Neolithig yng Nghymru gan ddechrau ffermio. Credir fod hyn yn dyddio o tua 4000 CC. Yn 2012, tra'n tyllu mewn ystâd o dai o'r enw 'Parc Glyn Dŵr' yng nghanol Trefynwy, darganfu Martin Tuck o Gymdeithas Archaeoleg Trefynwy olion crannog - tŷ enfawr, hir; mae'r ystâd o dai hwn ar dir fferm 'Crofft-y-Bwla'. Yn 2015 datgelwyd fod yr olion yn mynd yn ôl i'r Oes Efydd ac y bu yno waith adeiladu cychod mewn llyn enfawr, sydd wedi diflannu ers ychydig cyn dyfodiady Rhufeiniaid. Darganfuwyd ffosydd twfn, metr o led, yn sianeli hirion dros bridd a losgwyd ac a ddyddiwyd i Oes Newydd y Cerrig gan system dyddio radiocarbon: 5,000 o flynyddoedd yn ôl (2,917 CC). Mae hyn yn golygu fod y crannog hwn yn Nhrefynwy yn 2,000 o flynyddoedd yn hŷn nag unrhyw anhediad-llyn drwy Gymru a Lloegr.[6]

Erging golygu

Gorweddai Teyrnas Erging, yn bennaf, yn yr hyn sydd erbyn heddiw yng ngorllewin Swydd Henffordd yn Lloegr. Canol y deyrnas oedd yr ardal rhwng afonydd Mynwy a Gwy (Swydd Henffordd), ond ymestynnai hefyd i'r Sir Fynwy fodern ac i'r dwyrain o afon Gwy lle ceir safle tref Rufeinig Ariconium (yn Weston under Penyard heddiw); credir fod yr enw 'Erging' yn deillio o enw'r dref honno a oedd, mae'n bosibl, yn brifddinas y deyrnas fechan.

 
Y bont ar Afon Mynwy yn Nhrefynwy

Y cyfnod Rhufeinig golygu

Roedd gan y Rhufeiniaid gaer yma, a alwyd yn Blestium. Cysylltwyd y dref gyda plethwaith o ffyrdd i drefi cyfagos: Glefiwm (Caerloyw) ac Isca Augusta (Caer Rufeinig Caerllion). Credir fod mwyngloddio haearn gerllaw yn Gobaniwm (y Fenni) ac Ariconiwm (Rhosan ar Wy).

Yr Oesoedd Canol golygu

Yn 1067 codwyd castell Normanaidd. Yn y Canol Oesoedd, ffurfiai'r afon un o ffiniau Rhwng Gwy a Hafren. Yn y cyfnod yma gallai llongau gyrraedd cyn belled a Threfynwy. Mae Pont Mynwy yn bont sydd wedi'i chryfhau'n filwrol yn unigryw yng ngwledydd Prydain. Yn ddiweddarach daeth y dref o fewn goruchwyliaeth y Lancastriaid a hi ydy tref genedigol Harri V, brenin Lloegr (20 Mawrth 1413).

Wedi'r Oesoedd Canol golygu

Yn 1536 fe'i gwnaed yn dref weinyddol Sir Fynwy.

Twristiaeth golygu

Mae Trefynwy'n ganolfan dwristaidd eitha poblogaidd gan ei bod wed'i lleoli yn Nyffryn Afon Gwy a ddynodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae hefyd yn ardal Gadwraeth Arbennig, yn bennaf oherwydd yr amrywiaeth eithriadol o blanhigion dŵr a geir yn ei dalgylch.[7] Ceir hefyd amrywiaeth o bysgod, sy'n cynnwys poblogaeth sylweddol o eogiaid, ac ymhlith y rhywogaethau llai cyffredin, poblogaeth o'r Gwangen (Alosa fallax). Yn nhalgylch afon Gwy y ceir y boblogaeth fwyaf o'r Dyfrgi yng Nghymru. Nid oes llawer o broblemau llygredd ar hyd yr afon.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10][11]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Trefynwy (pob oed) (10,508)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Trefynwy) (929)
  
9.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Trefynwy) (4702)
  
44.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Trefynwy) (1,702)
  
37.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Preswylwyr enwog golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Rhagfyr 2021
  3. http://www.cymdeithasgymraegtrefynwy.org.uk Archifwyd 2014-03-19 yn y Peiriant Wayback. Cymdeithas Gymraeg Trefynwy a'r Cylch
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
  6. www.walesonline.co.uk; adalwyd 2015
  7. "Safle SAC Afon Gwy (Saesneg)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-10-07. Cyrchwyd 2012-01-11.
  8. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  10. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  11. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolen allanol golygu