Tregeiriog

pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Pentref ym mwrdeistref sirol Wrecsam yw Tregeiriog. Saif yn Nyffryn Ceiriog gerllaw Afon Ceiriog, ar y ffordd B4500 rhwng Glynceiriog a Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Mae yng nghymuned Ceiriog Ucha.

Tregeiriog
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.8953°N 3.2235°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ177337 Edit this on Wikidata
Map

Ymladdwyd Brwydr Crogen ger Tregeiriog yn 1165, pan gafodd y Cymry dan Owain Gwynedd fuddugoliaeth fawr ar fyddin y brenin Harri II o Loegr.

Brodor o Dregeiriog oedd Richard Jones Berwyn, un o arloeswyr y Wladfa ym Mhatagonia.

Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Wrecsam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato