Trichotillomania

cyflwr lle mae person yn teimlo’r angen i dynnu eu gwallt

Cyflwr lle mae person yn teimlo’r angen i dynnu eu gwallt yw trichotillomania. Efallai byddant yn tynnu’r gwallt ar eu pen neu mewn llefydd eraill, megis eu haeliau neu blew eu hamrannau.

Trichotillomania
Enghraifft o'r canlynolclefyd prin, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
MathAnhwylder rheoli ergyd, body-focused repetitive behavior disorders, anhwylder genetig, traction alopecia, clefyd Edit this on Wikidata
Enw brodoroltrichotillomanie Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Anhwylder cymhelliad-rheolaeth yw trichotillomania, cyflwr seicolegol lle nad yw’r person yn gallu atal eu hunain rhag gwneud rhywbeth penodol. Byddant yn profi awydd cryf i dynnu eu gwallt a thensiwn cynyddol tan eu bod yn gwneud hynny. Ar ôl tynnu’r gwallt, byddant yn profi ymdeimlad o ryddhad. Mae tynnu gwallt o’r pen yn gadael rhannau moel.

Gall trichotillomania achosi teimladau negyddol, megis euogrwydd. Gall y person hefyd deimlo cywilydd am dynnu eu gwallt, ac efallai byddant yn ceisio ei wadu neu ei guddio. Ambell waith gall trichotillomania wneud i’r person deimlo’n salw a gall hyn arwain at hunan-barch isel.

Achosion golygu

Nid yw’r hyn sy’n achosi trichotillomania yn wyddys, ond mae nifer o theorïau’n bodoli. Mae rhai arbenigwyr yn credu bod tynnu gwallt yn fath o ddibyniaeth. Po fwyaf rydych yn tynnu’ch gwallt, po fwyaf y byddwch am barhau i’w wneud. Gall trichotillomania fod yn adlewyrchiad o broblem iechyd meddwl. Mae theorïau seicolegol ac ymddygiadol yn awgrymu y gall tynnu gwallt fod yn ffordd o ryddhau straen neu bryder. Gan fod trichotillomania’n ymwneud ag ymddygiad cymhellol, mae rhai arbenigwyr yn credu ei fod yn berthyn i Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD). Mewn rhai achosion, gall trichotillomania fod yn ffordd o hunan-niweidio, lle mae’r person yn anafu eu hunain yn fwriadol fel ffordd o gael rhyddhad dros dro rhag anawsterau emosiynol.

Diagnosis golygu

Dyma rhai o’r meini prawf isod i wneud diagnosis:

  • Rydych yn tynnu’ch gwallt dro ar ôl tro
  • Rydych yn teimlo tensiwn cynyddol cyn ichi dynnu’ch gwallt
  • Rydych yn teimlo rhyddhad neu bleser pan rydych wedi tynnu’ch gwallt
  • Nid oes unrhyw gyflwr meddygol sy’n gwneud i chi dynnu’ch gwallt, megis cyflwr ar y croen
  • Mae tynnu’ch gwallt yn achosi anawsterau i chi neu’n effeithio ar eich bywyd dyddiol – er enghraifft, eich perthnasau neu’r gwaith.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Trichotillomania ar wefan  , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall