Bardd o'r Hen Ogledd a gysylltir ag Urien Rheged oedd Tristfardd (fl. ail hanner y 6g efallai). Buasai'n gyfoeswr i'r bardd Taliesin. Does dim o'i waith wedi goroesi.

Tristfardd
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Traddodiadau golygu

Mewn triawd yn y casgliad Trioedd Ynys Prydain, mae'n cael ei alw'n un o "Dri bardd coch eu gwaywffyn Ynys Prydain", gyda Dygynnelw ac Afan Ferddig (orgraff ddiweddar):

Tri Gwaywrudd Beirdd Ynys Prydain:
Tristfardd bardd Urien,
A Dygynnelw bardd Owain ab Urien,
Ac Afan Ferddig bardd Cadwallon mab Cadfan.[1]

Mae chwedl (ddiweddar yn ei ffurf bresennol) yn ei wneud yn garwr i wraig Urien. Ceir tri englyn anghyflawn yng nghorff testun y chwedl sydd i'w cael mewn llawysgirfau o ddiwedd yr 16g. Mae'r englynion yn cofnodi ymddiddan rhwng Tristfardd ac Urien ac efallai'n deillio o destun coll cynharach. Yn un o lawysgrifau Gwallter Mechain, sy'n dyddio o ddiwedd y 18g, ceir fersiwn o'r chwedl hon dan y teitl 'Chwedl Tristfardd bardd Urien Rheged'. Ynddi portreadir Tristfardd fel carwr dirgel gwraig Urien. Ymddengys nad yw'n sylweddoli pwy ydyw hi, oherwydd mae'n anfon Urien gyda neges iddi. Mae'r englynion yn rhan o gyfres (goll) sy'n ymddiddan rhwng y bardd ac Urien a'i wraig. Ar ddiwedd y chwedl mae Urien yn lladd Tristfardd ar ryd a elwir yn 'Rhyd Tristfardd' ac a leolir ger castell Urien (wedi ei gamleoli ym Maesyfed, Powys).[1]

Mae'r bardd canoloesol Cynddelw Brydydd Mawr yn cyfeirio sawl gwaith at Dristfardd ond heb ychwanegu ddim at ein gwybodaeth amdano. Gan fod Cynddelw yn hanu o Bowys mae'n bosibl ei fod yn gyfarwydd â thraddodiadau amdano sydd wedi diflannu.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991).