Trochydd mawr

rhywogaeth o adar
Trochydd Mawr
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Gaviiformes
Teulu: Gaviidae
Genws: Gavia
Rhywogaeth: G. immer
Enw deuenwol
Gavia immer
(Brünnich, 1764)

Mae'r Trochydd Mawr (Gavia immer) yn un o aelodau mwyaf teulu'r Trochwyr, tua 73–88 cm o hyd a 122–148 cm ar draws yr adenydd ac yn pwyso rhwng 2.7 a 6.3 kg .

Mae'n nythu ar draws Canada a rhannau gogleddol yr Unol Daleithiau ac yng Ngwlad yr Iâ. Mae'n nythu yn agos i ddŵr, ar lynnoedd fel rheol ac yn dodwy dau wy. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de ac mae'n weddol gyffredin ar y môr ger glannau gogledd-orllewin Ewrop.

Yn y tymor nythu mae'n aderyn hawdd ei adnabod, gyda pen du, bol gwyn a marciau du a gwyn ar y cefn. Yn y gaeaf mae llai o ddu a mwy o wyn ar y pen a'r gwddf. Pysgod yw ei brif fwyd, ac maent yn cael eu dal trwy blymio i'r dŵr, weithiau hyd at ddyfnder o 200 troedfedd. Yn y tymor nythu mae gan yr aderyn yma alwad nodweddiadol iawn.

Mae'r aderyn yma yn weddol gyffredin o gwmpas glannau môr Cymru yn y gaeaf. Y lle gorau i'w gweld yw o gwmpas Aberdesach lle gellir gweld hyd at 30 ohonynt ambell dro.

Aelodau eraill y teulu golygu

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Trochydd gyddfddu Gavia arctica
 
Trochydd gyddfgoch Gavia stellata
 
Trochydd mawr Gavia immer
 
Trochydd pigwyn Gavia adamsii
 
Trochydd y Môr Tawel Gavia pacifica
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
 
Gavia immer