Gwyddor sy'n ymdrin â throsedd yn nhermau ymddygiad yr unigolyn ac amodau cymdeithasol yw troseddeg.[1] Ymwnaed hefyd â datblygiad y gyfraith, achosion a chydberthnasau tor-cyfraith, a dulliau o rwystro a rheoli ymddygiad troseddol. Un o'i phrif isfeysydd yw penydeg.

Hanes y ddisgyblaeth golygu

Prif arloeswr troseddeg oedd Cesare Lombroso (1835–1909), yr ymchwilydd cyntaf i geisio esbonio ymddygiad y troseddwr yn nhermau'i nodweddion corfforol. Cyn hynny, cafodd tor-cyfraith ei hystyried yn fethiant ar ran moesoldeb yr unigolyn neu'n batholeg gymdeithasol. Yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g, ymdrechodd sawl gwyddonydd lunio damcaniaeth fiolegol ar droseddu, drwy astudiaethau o ddiffygion meddyliol, cydberthynas y bersonoliaeth a'r corff, a nodweddion genetig y drwgweithredwr. Mae troseddeg gyfoes yn ymdrin â'r pwnc drwy ddulliau seicolegol a chymdeithasegol yn hytrach na biolegol.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1.  troseddeg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Mawrth 2019.
  2. Terence Morris, "Criminology" yn The Fontana Dictionary of Modern Thought golygwyd gan Alan Bullock ac Oliver Stallybrass (Llundain: Fontana, 1977), t. 144

Dolen allanol golygu