Ideoleg Farcsaidd yw Trotscïaeth[1] neu Trotsgïaeth[2] sy'n adlewyrchu egwyddorion gwleidyddol ac economaidd Leon Trotsky (1879–1940), yn enwedig ei ddamcaniaeth o chwyldro byd-eang parhaol. Ffurf ar gomiwnyddiaeth ydyw sy'n beirniadu Staliniaeth am wyro oddi ar drywydd y nod o gomiwnyddiaeth ryngwladol. Yn ôl Trotsky, roedd polisïau economaidd Joseff Stalin i ddatblygu'r Undeb Sofietaidd yn annog creu cyfundrefn fiwrocrataidd enfawr i lywodraethu'r wlad, a byddai'r cyngor sofietaidd yn y pen draw yn datblygu meddylfryd cenedlaethol megis gwladwriaethau eraill. Cyhuddodd Stalin o gofleidio elfennau o genedlaetholdeb Rwsiaidd ar ffurf "gwladgarwch sosialaidd Sofietaidd".

Sefydlwyd y Bedwaredd Gymdeithas Ryngwladol gan gefnogwyr Trotsky yn Ffrainc yn 1938. Parhaodd dylanwad Trotscïaeth wedi llofruddiaeth Trotsky yn 1940. Yn sgil yr ymateb Sofietaidd i Chwyldro Hwngari yn 1956, trodd nifer o Farcswyr Gorllewin Ewrop eu cefnau ar y blaid gomiwnyddol, ac ymunasant â'r mudiad Trotscïaidd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [Trotskyism].
  2.  Trotsgïaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Mehefin 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gomiwnyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.