Dilledyn ydy trowsus neu llodrau, sy'n ymestyn o'r cluniau i'r migyrnau gan orchuddio'r coesau'n unigol (yn hytrach na gyda darn o ddefnydd yn ymestyn o amgylch y ddwy goes megis sgert). Yn y gorllewin, dilledyn ar gyfer dynion oedd trowsus ers yr 16eg ganrif, ond erbyn yr 20fed ganrif caent eu gwisgo'n gyffredin gan ferched yn ogystal.

Yn y 15fed ganrif cysylltid trywsusau llac gwlanog gyda’r dosbarth cymdeithasol isaf a'r enw arnynt oedd llawdr neu llodrau. Cysylltir hwy â lladron a dyna darddiad y gair. Ar y llaw arall, daeth trywsusau tynn iawn a elwid yn hose yn Saesneg neu'n 'hosan' yn y Gymraeg yn boblogaidd gan yr uchelwyr. Roedd yr 'hosanau' canoloesol yn wahanol iawn i'r hyn a wisgir heddiw. Arferid eu gwisgo gyda'r 'ddwbled gwta' ac roeddent yn ffyrnigo rhai pobl gan eu bod yn dangos gormod o siâp y corff, gan eu bod yn ymestyn o’r esgid hyd at dop y goes.[1]

Delweddau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. gutorglyn.net; adalwyd 23 Rhagfyr 2015
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Chwiliwch am trowsus
yn Wiciadur.