Trychineb Aberfan

Tirlithriad ym mhentref Aberfan (yn Sir Forgannwg ar y pryd, bellach ym mwrdeistref sirol Merthyr Tudful) oedd Trychineb Aberfan pan laddwyd 144 o bobl gan gynnwys 116 o blant a hynny ar y 21 Hydref 1966 yn y tirlithriad.

Trychineb Aberfan
Enghraifft o'r canlynoldamwaith gwaith mwyngloddio Edit this on Wikidata
Dyddiad21 Hydref 1966 Edit this on Wikidata
Lladdwyd144 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd21 Hydref 1966 Edit this on Wikidata
LleoliadAberfan Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llun o'r awyr

Ar ddydd Gwener yr 21ain o Hydref 1966, am 9.15 y bore, llithrodd tomen lo o weithfa rhif 7 i lawr llethrau'r bryniau uwchlaw'r pentref gan gladdu Ysgol Gynradd Pantglas ac ugain o dai a ffermdy. Lladdwyd 144 o bobl gan gynnwys 116 o blant, gyda'r mwyafrif ohonynt rhwng 7 a 10 oed. Lladdwyd pump athro yn y drychineb. Dim ond cnewllyn o ddisgyblion a oroesodd y digwyddiad.

Roedd y domen lo yn cynnwys creigiau o bwll glo lleol. Roedd y disgyblion newydd adael y gwasanaeth boreuol yn y neuadd, lle buont yn canu "All Things Bright and Beautiful", am eu hystafelloedd dosbarth, pan glywsant swn mawr y tu allan. Roedd yr ystafelloedd dosbarth ar ochr y tirlithriad.

Nid oedd yr Arglwydd Robens o Woldingham, cadeirydd y Bwrdd Glo Cenedlaethol wedi rhuthro i safle'r drychineb; yn hytrach aeth i gael ei benodi fel Canghellor Prifysgol Surrey. Yn ddadleuol iawn, dywedodd yn ddiweddarach na allai unrhyw beth fod wedi cael ei wneud er mwyn osgoi'r tirlithriad.

Trychineb Aberfan 21ain o Hydref 1966

Rhoddwyd y bai am y drychineb ar y Bwrdd Glo Cenedlaethol gan dribiwnlys, ac fe'i orchmynwyd i dalu iawndal o £500 am bob plentyn i deuluoedd y meirw. Darganfuwyd fod y tomen lo wedi bod yn suddo ers misoedd, ond ni wnaethwyd dim am y mater. Dywedwyd fod dwr wedi cynyddu yn y pentwr o wastraff ar ben y mynydd gan achosi i'r gwastraff lifo i lawr y mynydd. Ym 1958 roedd y tip wedi cael ei leoli ar nant fechan (a ddangoswyd ynghynt ar fap Ordnance Survey) ac roedd peth tir wedi llithro cyn y digwyddiad ym 1966. Roedd ansefydlogrwydd y tip glo yn wybyddus i reolwyr y pwll glo ac i'r rhai a weithiai yno, ond ychydig a wnaed am hyn. Cafodd Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful ac Undeb Cenedlaethol y Glowyr eu clirio o unrhyw gam-weithredu. Ni chafodd unrhyw weithiwr y Bwrdd Glo Cenedlaethol eu diswyddo na'u disgyblu.

Beddau'r plant a'r oedolion a laddwyd

Dangosodd y cyhoedd eu cydymdeimlad drwy gyfrannu'n ariannol, heb wybod i ble y byddai'r arian yn mynd. O fewn ychydig fisoedd, cafwyd bron 90,000 o gyfraniadau, gyda'r swm terfynol yn £1,606,929[1] (2008:£21.4m)).[2] Roedd y modd y cafodd y swm hwn ei reoli'n destun dadlau dros y blynyddoedd; defnyddiwyd yr arian hwn i glirio'r ardal o'r difrod a achoswyd gan y drychineb a theimlai nifer mai'r Bwrdd Glo Cenedlaethol dylai fod wedi gwneud hyn.

Ar ôl nifer o apeliadau, defnyddiwyd rhan o'r gronfa i wneud gweddill y tip glo yn ddiogel ac osgodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol y gost lawn o wneud hyn. Ad-dalodd llywodraeth y Blaid Lafur £150,000 ym 1997, ond pe bai chwyddiant wedi cael ei ystyried byddai'r swm hwn yn agos i £2 miliwn.[2]

Caewyd y pwll glo ym 1989.

Ym mis Chwefror 2007 cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad gyfraniad o £2 filiwn i Gronfa Goffa Trychineb Aberfan, fel rhyw fath o iawndal am yr arian a gafodd y llywodraeth yn y cyfnod yn union ar ôl y drychineb.

Ar 21 Hydref 2016 am 9.15 y bore, hanner canrif union ers y drychineb, cynhaliwyd munud o dawelwch cenedlaethol i gofio am y drychineb.[3]

Cafwyd pennod ar y drychineb ar gyfres Netflix, The Crown yn 2019.[4]

Gweler hefyd golygu

  • Rhagargoelion Aberfan
  • Cyhoeddwyd casgliad o gerddi Cymraeg yn ymateb i'r drychineb, Dagrau Tost: Cerddi Aber-fan, dan olygyddiaeth Christine James ac E. Wyn James, gan Gyhoeddiadau Barddas yn 2016.

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-25. Cyrchwyd 2011-11-30.
  2. 2.0 2.1  Historic inflation calculator. This is Money.
  3. Munud o dawelwch i gofio hanner canrif Aberfan , Golwg360, 21 Hydref 2016.
  4. https://www.theguardian.com/tv-and-radio/2019/nov/17/television-drama-the-crown-portrays-aberfan-disaster

Dolenni allanol golygu