Lleidlifoedd a llifoedd o graig folcanig a achoswyd gan echdoriad Nevado del Ruiz ar 13 Tachwedd 1985 oedd trychineb Armero a ddifethodd Armero a threfi cyfagos yng nghanolbarth Colombia gan ladd rhyw 23,000 o bobl.

Trychineb Armero
Enghraifft o'r canlynolechdoriad folcanig Edit this on Wikidata
Dyddiad13 Tachwedd 1985 Edit this on Wikidata
LleoliadNevado del Ruiz Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Canlyniadau'r drychineb: adfeilion adeiladau Armero a ddinistriwyd gan y lleidlif.

Echdorodd y strato-losgfynydd yn nhalaith Tolima yn yr Andes ar ôl 69 mlynedd o fudandod. Cafodd y llywodraeth sawl rhybudd gan fylcanolegwyr ers mis Medi 1985, ond ni wnaed fawr o ymdrech i symud pobl o'r ardal. Ffrwydrodd lludw a chreigiau pyroclastig o grater Nevado del Ruiz, gan doddi rhewlifoedd y llosgfynydd ac achosi pedwar lahar i lithro i lawr y llethrau am 50 km yr awr. Cyflymodd y llifoedd mewn ceunentydd cul ac ymunodd â chwech afon ar droed y llosgfynydd.

Cafodd Armero, tref ail fwyaf Tolima a leolir rhyw 80 km o'r brifddinas Bogotá, ei gladdu gan laid a rwbel gan ladd 20,000 allan o 29,000 o drigolion. Yn ogystal, cafodd tua 3000 arall eu lladd mewn trefi a phentrefi cyfagos gan gynnwys Chinchiná. Delwedd enwocaf y drychineb oedd y lluniau o Omayra Sánchez, merch 13 oed a gafodd ei dal yn y llanastr am dridiau cyn iddi farw.

Hon oedd yr echdoriad a achosodd y nifer fwyaf o farwolaethau yn yr 20g yn ail yn unig i losgfynydd Mount Pelée ar Martinique ym 1902 a laddodd 29,000 o bobl.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) 1985: Volcano kills thousands in Colombia, BBC. Adalwyd ar 21 Awst 2017.