Tuduriaid Penmynydd

teulu

Teulu o uchelwyr Cymreig fu a rhan bwysig yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn ddiweddarach Lloegr oedd Tuduriaid Penmynydd. Cysylltir hwy a phentref Penmynydd ar Ynys Môn.

Arfau Tuduriaid Penmynydd, sy'n seiliedig ar arfau 'Ednyfed Fychan
Ffenestr liw teulu'r Tuduriaid yn Eglwys Penmynydd

Roedd y teulu yn ddisgynyddion Ednyfed Fychan (bu farw 1246), distain Llywelyn Fawr a'i fab Dafydd ap Llywelyn. Roedd Ednyfed Fychan ei hun yn ddisgynnydd o Farchudd ap Cynan. Priododd Ednyfed a Gwenllian ferch Rhys, merch Rhys ap Gruffudd ("Yr Arglwydd Rhys").

Cofeb Gronw Tudur

Adeiladau golygu

Adeiladwyd y plasdy presennol, Plas Penmynydd, yn 1576, ond bu plasdy cynharach ar yr un safle neu gerllaw. Ymwelodd y bardd Iolo Goch â'r plasdy rhywbryd yn y cyfnod 1367-82. Mae'n moli croeso hael Goronwy ap Tudur Fychan (Gronw Fychan) ac yn cymharu Penmynydd i aelwyd llys Urien Rheged:

Cyntaf lle'r af, llew a rydd,
Caer Pen Môn, carw Penmynydd,
Tŷ, gwelais gynt, teg wiwle,
Tudur Llwyd, da ydyw'r lle;
Yno mae, heb gae ar ged,
Ail drigiant aelwyd Rheged.[1]

Mae beddfaen alabaster cerfiedig Gronw Fychan, a fu farw yn 1382, gyda'i wraig Myfanwy, i'w weld yn eglwys y plwyf.

Cefndryd Owain Glyn Dŵr, a'u disgynyddion golygu

Yn nechrau'r 15g, roedd brodyr Gronw Fychan, Rhys ap Tudur, Gwilym ap Tudur a Maredudd ap Tudur, yn bleidwyr blaenllaw i Owain Glyndŵr. Oherwydd hyn collodd y teulu y rhan fwyaf o'u tiroedd. Roedd Gronw Fychan ei hun wedi marw cyn dechrau gwrthryfel Glyn Dŵr, felly dychwelwyd cyfran o diroedd y teulu i'w ddigynyddion ef yn ddiweddarach.

Aeth mab Maredudd, Owain, i Lundain, lle newidiodd ei enw o Owain ap Maredudd i Owain Tudur (Owen Tudor). Syrthiodd Catrin o Valois, gweddw Harri V, brenin Lloegr mewn cariad ag ef, ac mae'n debyg iddynt briodi, er nad oes prawf o hyn. Cawsant bum plentyn, yn cynnwys Edmwnd Tudur a Siasbar Tudur. Daeth mab Edmwnd, Harri Tudur, yn frenin Lloegr fel Harri VII.

Llinach golygu

Ymhlith aelodau'r teulu roedd:

Perthynas y teulu i Owain Glyn Dŵr golygu

Mae'r goeden deulu ganlynol yn dangos y berthynas rhwng y ddau deulu: teulu Glyn Dŵr a Thuduriaid Penmynydd.

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Goronwy ap Tudur Hen
(Teulu Ednyfed Fychan)
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Gruffudd Fychan II
m. cyn 1340
 
 
 
Elen ferch Tomos
 
Marged ferch Tomos
 
Tudur ap Goronwy
m. 1367
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Glyn Dŵr
c. 1354 - c. 1414
 
 
Maredudd
m.1406
 
Rhys
m. 1409
 
Gwilym
m. 1413
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Tudur


Llinach gwrywaidd y Tuduriaid golygu

Dyma linach gwrywaidd y Tuduriaid o Ednyfed Fychan hyd at Harri VII, brenin Lloegr.

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Ednyfed Fychan
m. 1246
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Goronwy ab Ednyfed
m. 1268
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Tudur Hen
(neu Tudur ap Goronwy)
m. 1311
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Goronwy ap Tudur Hen
m. 1331
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Elen ferch Tomos
(mam Owain Glyn Dŵr)
 
 
Marged ferch Tomos
 
 
Tudur ap Goronwy
m. 1367
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Maredudd ap Tudur
m. 1406
 
Rhys ap Tudur
m. 1409
 
Gwilym ap Tudur
m. 1413
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Tudur
m. 1461
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Edmwnd Tudur
m. 1456
 
Siasbar Tudur
m.1495
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Harri VII, brenin Lloegr
m. 1507

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988). Cerdd V, ll. 47-52