Tudwal

Sant Llydewig o hanner cyntaf y 6ed ganrif

Sant Llydewig o hanner cyntaf y 6g oedd Tudwal (Lladin: Tudgualus, Llydaweg Tudgual). Yn ôl traddodiad bu farw yn 564. Mae'n un o Saith Sant-sefydlydd Llydaw. Dethlir ei ddydd gŵyl ar y 1af o Ragfyr.

Tudwal
Ganwyd490 Edit this on Wikidata
Dinbych-y-pysgod Edit this on Wikidata
Bu farw564 Edit this on Wikidata
Landreger Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
Swyddesgob, abad Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl1 Rhagfyr Edit this on Wikidata
Erthygl am y sant yw hon. Gweler hefyd Tudwal Tudclyd.
Cario gweddillion Tudwal a Sant Ivo o Kermartin tu allan i eglwys gadeiriol Tréguier yn 2005

Dywedir ei fod yn fab i Hywel Mawr (Hoel), un o frenhinoedd Llydaw. Teithiodd i Iwerddon i astudio, cyn ymsefydlu fel meudwy ar y lleiaf o'r ddwy ynys a elwir yn awr yn Ynysoedd Tudwal ger Penrhyn Llŷn. Gellir gweld olion priordy ar y lleiaf o'r ddwy ynys, sydd yn ôl traddodiad ar safle clas Tudwal. Mae hefyd draddodiad ei fod wedi treulio cyfnod yn Llanilltud Fawr, a bod sant Curig yn un o'i ddisgyblion yno.

Yn ddiweddarach dychwelodd i Lydaw a sefydlu mynachlog dan nawdd ei gefnder, Deroch, brenin Domnonia. Dywedir iddo gael ei wneud yn esgob Tréguier ar anogaeth Childebert I, brenin y Ffranciaid. Ei ddydd gwylmabsant yw 1 Rhagfyr. Dywedir i'w greiriau gael eu trosglwyddo i Laval, Mayenne, Ffrainc yn 870 neu 878.

Gweler hefyd golygu