Ystyr y term tueddu at rywbeth, yw closio neu ffafrio, gogwyddo neu symud tua rhyw gyfeiriad arbennig. Rhoi mwy o bwysau neu sylw i un ddadl na'r llall, felly yw tuedd, neu bias: ochri gydag un math o grefydd, un set o bobl, rhywedd, meddylfryd wleidyddol ayb. Ond mae'r gair 'tuedd' yn llawer hŷn na hyn, ac i'w gael yng Ngwaith Dafydd Benfras yn y 13g, pan oedd y gair yn cyfeirio at ardal, ffin, cyffiniau neu gyfeiriad.[1] Yr hyn sy'n gyffredin rhwng y ddau ystyr, yw'r syniad o 'ochr'. Yn yr Alban, ceir Afon Tuedd, ac fe'i lleolir ar y ffin rhwng yr Alban a Lloegr, man a elwir yn The Borders, yn Saesneg.

Afon Tuedd (River Tweed): y ffin hanesyddol rhwng yr Alban a Lloegr; enw'r ardal yn Saesneg, lle gorwedd yr afon, yw'r Borders. Ystyr y gair Cymraeg "tuedd" yn y 13g a chyn hynny oedd "ochr", "ffin" neu "gyffiniau".

Yr hyn sy'n groes i duedd yw di-duedd, niwtraliaeth neu feddwl agored. Yn fras, cyfeiria'r erthygl hon at ddwy agwedd o'r gair: y fathemateg a'r ochr wleidyddol.

Mewn mathemateg golygu

Mewn mathemateg, ac yn benodol, o fewn ystadegaeth, mae tuedd yn faes a astudir, ac a ddiffinir fel y "canlyniad sy'n wahanol i'r amcangyfrif a ddisgwylir".

Mewn geiriau eraill, mae ystadegyn yn 'dueddol os gaiff ei gyfrifo i fod yn eithaf gwahanol i baramedrau poblogaeth (neu'r paramedrau ystadegol) a gyfrifwyd. [Nodyn: 'paramedr ystadegol' yw maint, sy'n indecs o ddosbarthiad tebygolrwydd. Caiff ei ystyried fel rhif y boblogaeth (ystadegol) neu fodel ystadegol]. Dyma rai mathau:

  • tuedd wrth ddethol, a elwir hefyd yn "duedd Berksonian". Yma, mae rhai unigolion yn fwy tebygol o gael eu dewis i fod yn rhan o'r sampl, nag eraill.
  • tuedd yr amcangyfrifydd
  • mewn prawf rhagdybiaeth, dywedir fod yr arbrawf yn ddi-duedd dan rai amgylchiadau
  • tuedd wrth ganfod. Er enghraifft, efallai fod meddygon yn fwy parod i chwilio am glefyd y siwgr mewn cleifion sy'n dioddef o dewdra, na chleifion tenau.
  • tuedd wrth ddadansoddi'r ystadegau
  • asesiadau addysgol: profion o fewn y byd addysg, lle ceir tuedd wrth osod y prawf, neu wrth farcio'r prawf.
  • tuedd wrth ariannu, sy'n digwydd yn aml, wrth i'r asiantaeth sydd wedi'i dethol i weinyddu'r profion geisio plesio'r corff sy'n eu cyflogi, ac felly maen nhw'n euog o droi'r dŵr i'w melin eu hunain.
  • tuedd wrth gyhoeddi'r canlyniadau; mae hyn yn digwydd pan fo'r cyhoeddiad terfynol yn cael ei gadw oddi wrth rhan o'r boblogaeth, drwy ei gyhoeddi'n fewnol, neu mewn rhai cyfryngau'n unig.[2][3][4]

Tuedd gwleidyddol golygu

 
Adroddiad ym mhapur newydd The Guardian yn honni fod gan y BBC duedd yn erbyn annibyniaeth i'r Alban yn 2014.

Ceir hefyd duedd gwleidyddol, a ystyrir yn beth annheg, lle rhoddir mwy o bwysau ar un ochr y ddadl na'r llall, un blaid yn fwy na'r lleill. Ystyrir fod sylwebaeth y BBC ar faterion sy'n ymwneud â Chymru yn ochri fwy gyda'r status quo yn Lloegr, gan rai, er enghraifft y modd y maen nhw'n rhoi sylw i deulu brenhinol Lloegr, fel pe bai hynny'n haeddu sylw mewn gwlad arall sydd yn ei hanfod yn ddemocrataidd, sosialaidd.[5][6] Gan eraill, ystyrir fod tuedd y BBC yn erbyn datganoli'r Alban am y misoedd cyn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 wedi cael effaith gref ar farn pobl.[7][8][9][10]

Gall cyflyru pobl, heb iddynt wybod hynny liwio eu barn, a chreu tuedd annheg o blaid neu yn erbyn rhywbeth neu rywrai. Effaith bias systematig, fel hyn, yw creu rhagfarn - barn sydd wedi'i blannu, dros amser ym meddyliau pobl a gellid dweud fod pobl fel hyn yn unllygeidiog a'u meddwl yn gaeedig. Yr hyn sy'n groes i duedd yw niwtraliaeth neu feddwl agored.

Ers dyfodiad cyhoeddi, a'r gallu i greu llyfrau, un set o bobl yn unig a oedd a'r sgiliau angenrheidiol i ddarllen eu gwaith, a'r cyfoeth i fforddio llyfrau. Ar hyd y canrifoedd, mae cyhoeddwyr wedi ceisio llywio barn pobl drwy eu cyhoeddiadau; felly hefyd ar y we a'r cyfryngau cymdeithasol heddiw.[11]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd 20 Chwefror 2019.
  2. Rothman, K.J. et al. (2008) Modern Epidemiology (Lippincott Williams & Wilkins) tt.134-137.
  3. Neyman, J; Pearson, E S (1936). "Contributions to the theory of testing statistical hypotheses". Stat. Res. Mem. 1: 1–37.
  4. National Council on Measurement in Education http://www.ncme.org/ncme/NCME/Resource_Center/Glossary/NCME/Resource_Center/Glossary1.aspx?hkey=4bb87415-44dc-4088-9ed9-e8515326a061#anchorB Archifwyd 2017-07-22 yn y Peiriant Wayback.
  5. golwg360.cymru; Gwefan Golwg 360; teitl: ‘Gormod o sylw i fabi Will a Kate’ medd gwylwyr; adalwyd 20 Chwefror 2019.
  6. golwg360.cymru; teitl - “For Wales, see England” – ymateb AS i ffrae Pont Hafren; adalwyd 20 Chwefror 2019.
  7. www.rt.com/uk; teitl y gwaith: BBC accused of anti-independence bias after editing out Salmond’s reply to ‘bank exodus’ question; adalwyd 20 Chwefror 2019.
  8. www.telegraph.co.uk; teitl y gwaith: Andrew Marr accused of bias over Scottish independence; adalwyd 20 Chwefror 2019.
  9. theguardian.com; The Guardian teitl y gwaith: Civil servants accused of bias during Scotland's independence referendum; adalwyd 20 Chwefror 2019.
  10. www.heraldscotland.com; The Herald teitl y gwaith: BBC needs to clear air over bias claims; adalwyd 20 Chwefror 2019.
  11. Ann Heinrichs, The Printing Press (Inventions That Shaped the World), t. 53, Franklin Watts, 2005, ISBN 0-531-16722-4, ISBN 978-0-531-16722-9