Clwstwr sêr wedi'i leoli yng nghytser y Tarw (Taurus) yw y Twr Tewdws neu'r Pleiades, a adwaenir hefyd fel y Saith Chwaer a Messier 45 (M45).[1][2] Dyma un o'r clystyrau sêr agosaf at y Ddaear ac un o'r amlycaf i'r llygad noeth yn yr awyr nos.[3]

Y Twr Tewdws, neu'r Pleiades, yn dangos nifwl adlewyrchol rhwng y sêr
Y Twr Tewdws

Mae chwech seren yn hawdd i weld gyda'r llygad noeth, a mae'r seren ddisgleiriaf, Alcyone, o'r trydydd maintioli. Gwelir saith seren o leoedd tywyll ymhell o oleuadau trefol, a gall rhai bobl gyda golwg dda weld mwy. Mae dwsinau yn ymddangos trwy binocwlar neu delesgop bach.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Geiriadur Prifysgol Cymru". Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 25 Hydref 2016.
  2. "Cronfa Ddata SIMBAD". Centre de Données Astronomiques de Strasbourg. Cyrchwyd 25 Hydref 2016. (Yn Saesneg.) Chwiliad am yr Pleiades yn adnodd Simbad.
  3. Evans, Aneurin (1984), "Hanes yr Haul a'r Sêr–II", Y Gwyddonydd 22 (3): 104–108, https://journals.library.wales/view/1394134/1406652/35, adalwyd 10 Ebrill 2017