Pêl-droediwr Cymreig yw Tyler D'Whyte Roberts (ganwyd 12 Ionawr 1999). Mae'n chwarae fel blaenwr i Leeds a Chymru.

Tyler Roberts
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnTyler D'Whyte Roberts
Dyddiad geni (1999-01-12) 12 Ionawr 1999 (25 oed)
Man geniCaerloyw, Lloegr
SafleBlaenwr
Y Clwb
Clwb presennolLeeds United
Rhif11
Gyrfa Ieuenctid
2006–2016West Bromwich Albion
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2016–2018West Bromwich Albion1(0)
2016–2017Rhydychen Unedig (ar fenthyg)14(0)
2017Amwythig (ar fenthyg)13(4)
2017–2018Walsall (ar fenthyg)17(5)
2018–Leeds United5(3)
Tîm Cenedlaethol
2015–2016Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru o dan 1710(3)
2015–Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru o dan 192(0)
2017–Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru o dan 202(0)
2017–Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru o dan 215(1)
2018–Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru2(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 08:44, 9 Hydref 2018 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 19:33, 15 Medi 2018 (UTC)

Fe raddiodd o academi West Brom gan wneud ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb ym mis Mai 2016. Bu ar fenthyg i dimau Rhydychen Unedig, Amwythig ac Walsall cyn ymuno gyda Leeds yn Ionawr 2018.

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru ar 6 Medi 2018, pan ddaeth ymlaen yn ystod ail-hanner y fuddugoliaeth 4 - 1 yn erbyn Iwerddon, gan eilyddio Gareth Bale.

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.