Tyrceg

iaith a siaredir yn Nhwrci ac mewn gwledydd eraill a fu'n rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid

Iaith a siaredir yn Nhwrci a chan leiafrifoedd yng ngwledydd eraill a fu'n rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid yw Tyrceg (hefyd: Twrceg). Mae'r iaith yn perthyn i gangen ddeheuol (Orghuz) o deulu'r ieithoedd Tyrcaidd, sydd yn ei dro yn gangen o'r ieithoedd Altaidd (sylwer bod anghytundeb ymhlith ieithyddion am berthynas Tyrceg â theuluoedd ieithyddol eraill).

Tyrceg
Enghraifft o'r canlynoliaith naturiol, iaith fyw, maes astudiaeth Edit this on Wikidata
MathWestern Oghuz Edit this on Wikidata
Enw brodorolTürkçe Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 82,231,620 (2021),[1]
  •  
  • 5,870,300 (2021),[1]
  •  
  • 79,526,830 (2020),[2]
  •  
  • 79,400,000 (2019),[3]
  •  
  • 78,527,240 (2012),[4]
  •  
  • 71,435,850 (2006),[5]
  •  
  • 5,670,300 (2020),[2]
  •  
  • 350,000 (2006),[5]
  •  
  • 380,300 (2006)[4]
  • cod ISO 639-1tr Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2tur Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3tur Edit this on Wikidata
    GwladwriaethBwlgaria, Cyprus, Gwlad Groeg, Twrci, Gogledd Cyprus Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuTurkish alphabet Edit this on Wikidata
    Corff rheoleiddioTurkish Language Association Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

    Daeth yr iaith i'w diriogaeth bresennol yn Asia Leiaf, y Balcanau a'r Dwyrain Canol yn y 13g a'r 14g gyda goresgyniad y llwythau Tyrcaidd a fudodd o Ganolbarth Asia. Hyd at ddechrau'r 20g ysgrifennid Tyrceg yn yr ysgrifen Arabeg, ond yn 1929 fe'i newidiwyd ar orchymyn Mustafa Kemal Atatürk ac heddiw mae'n defnyddio gwyddor Rufeinig ac mae gramadeg yr iaith safonol wedi'i symleiddio a'i rheoleiddio'n sylweddol.

    Yn ôl cyfrifiad Bwlgaria 2001, mae 762,516 o bobl yn siarad Tyrceg fel mamiaith ym Mwlgaria (9.6% o'r boblogaeth). Mae mwyafrif y siaradwyr Tyrceg yn byw yn ardaloedd Kardzhali (yn ne Bwlgaria) a Razgrad (yn y gogledd-ddwyrain). Tyrceg yw iaith y mwyafrif yn nwyrain Cyprus yn ogystal.

    Arwydd ffordd ynIstanbwl 2006

    Cyfeiriadau golygu

    1. 1.0 1.1 https://www.ethnologue.com/language/tur/24.
    2. 2.0 2.1 https://www.ethnologue.com/language/tur/23.
    3. (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas, Texas: SIL International, 21 Chwefror 2022, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/, adalwyd 23 Ebrill 2022
    4. 4.0 4.1 https://www.ethnologue.com/language/tur.
    5. 5.0 5.1 (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas, Texas: SIL International, 21 Chwefror 2022, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/
     
    Wikipedia
    Argraffiad Tyrceg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
      Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.