Tytonidae

teulu o adar
Barn-owls
Amrediad amseryddol: Eosen i'r presennol
Tylluan wen fygydog Awstralia
(Tyto novaehollandiae)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Strigiformes
Teulu: Tytonidae
Ridgway, 1914
Genera

Tyto
Tylluan winau
Phodilinus badius

Cyfystyron

Tytoninae sensu Sibley & Ahlquist

Teulu o adar yw'r Tytonidae, sy'n air Lladin (enw Cymraeg: Teulu'r Dylluan Wen; ll. Tylluanod Gwynion). Mae'n un o ddau deulu o dylluanod, y llall yw'r Strigidae, sef y 'Gwir dylluanod'. Ceir 16 rhywogaeth sy'n fyw heddiw.

O ran maint mae tylluanod gwynion yn ganolig-fawr, gyda phennau mawr, siâp calon. Mae eu coesau'n hir ac yn gryf, ac mae eu crafangau'n hynod o bwerus. Gellir gwahaniaethu rhyngddynt â theulu'r Strigidae yn eitha rhwydd, drwy edrych ar eu sternwm a'u coesau.

O fewn y teulu hwn ceir dau isdeulu: y Tytoninae (neu Dylluanod Tyto) a'r Phodilinae (Tylluanod gwinau).

Rhywogaethau golygu

Rhestr Wicidata:

teulu enw tacson delwedd
Tylluan wen Tyto alba
 
Tylluan wen Hispaniola Tyto glaucops
 
Tylluan wen Madagasgar Tyto soumagnei
 
Tylluan wen Manus Tyto manusi
Tylluan wen Minahassa Tyto inexspectata
 
Tylluan wen Prydain Newydd Tyto aurantia
 
Tylluan wen Swlawesi Tyto rosenbergii
 
Tylluan wen fygydog Awstralia Tyto novaehollandiae
 
Tylluan wen y gwair Tyto capensis
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau golygu