Dinas yn Siberia, Rwsia, yw Tyumen (Rwseg: Тюмень; IPA: [tʲʉˈmʲenʲ]) sy'n ddinas fwyaf a chanolfan weinyddol Oblast Tyumen, Dosbarth Ffederal Ural, ac a leolir ar lan Afon Tura 2,500 cilometer (1,600 milltir) i'r dwyrain o Foscfa. Yn ôl cyfrifiad Rwsia 2010 mae 581,907 o bobl yn byw yn y ddinas.[1]

Tyumen
Mathtref/dinas, endid tiriogaethol gwleidyddol, dinas fawr Edit this on Wikidata
Ru-Tyumen.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth861,100 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1586 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethRuslan Kukharuk Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Cawnas, Celle, Houston, Brest, Daqing Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTyumen Urban Okrug Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd698.48 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr102 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.15°N 65.53°E Edit this on Wikidata
Cod post625000 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethRuslan Kukharuk Edit this on Wikidata
Map
Mynachlog y Drindod, Tyumen

Tyumen oedd yr aneddiad Rwsiaidd cyntaf yn Siberia. Fe'i sefydlwyd yn 1586 fel canolfan i hyrwyddo ymlediad Rwsia i'r dwyrain ac mae'n aros yn un o'r canolfannau diwydiannol ac economaidd pwysicaf i'r dwyrain o Fynyddoedd yr Wral. Saif ar groesffordd sawl llwybr masnach mawr gyda mynediad i afonydd gall llongau eu defnyddio, ffaith a arweiniodd at dwf cyflym Tyumen o aneddiad milwrol bychan i fod yn ddinas fasnachol fawr. Yng nghanol Hen Tyumen ceir sawl adeilad hanesyddol sy'n adlewyrchu hanes hir y ddinas.

Heddiw mae Tyumen yn ganolfan busnes o bwys. Tyumen yw canolfan cludiant a diwydiant Oblast Tyumen, ardal gyfoethog mewn adnoddau naturiol ac sy'n ymestyn o'r ffin rhwng Rwsia a Casacstan i Gefnfor yr Arctig.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwasanaeth Ystadegau'r Wladwriaeth Ffederal". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-15. Cyrchwyd 2014-09-17.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.