USB (byrfodd o'r Saesneg: Universal Serial Bus) yw'r safon rhyngwladol a ddefnyddir yn aml i gysylltu teclynnau electronig â'i gilydd. Fel arfer, fe'i ceir ar gebl i gysylltu dau ddyfais cyfrifiadurol neu i wefru teclyn ymylol, cyfrifiadurol fel y llygoden, yr allweddell neu gamera digidol. Fe'i rhyddhawyd gyntaf yn Nhachwedd 1994 a chedwir y safonnau (2019) gan Fforwm yr IF (USB Implementers Forum). Hyd at 2019 cafwyd tair cenhedlaeth o fanylebau: USB 1.x a ddaeth allan yn 1994, USB 2.0 yn Ebrill 2000, ac USB 3.x yn 2009.[1]

USB
USB derbynnydd Math A
Enghraifft o'r canlynolprotocol suite, interface standard, de facto standard Edit this on Wikidata
Mathserial bus, multi-lane serial bus, peripheral bus, connector, electrical connector Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1996 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysUSB 1.0, USB 1.1, USB 2.0, USB 3.0, USB 3.1, USB 3.2, USB 3 Gen 2x1, USB 3.2 Gen 2x2, USB4 Edit this on Wikidata
Rhagflaenyddserial port, parallel port, game port, Apple Desktop Bus, PS/2 connector, MagSafe connector, IEEE 1394 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.usb.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Chwith: dau 'dderbynydd' (receptacle) USB 3.0 Standard-A a (dde) dau dderbynydd USB 2.0 Standard-A wedi eu lleoli ar banel cyfrifiadur
Co bach y cwmni SanDisk a ryddhawyd yn 2009: SanDisk Cruzer Micro, 4GB

Yn 2019 roedd y fforwm yr USB IF yn gweithio ar safon ar gyfer fersiwn di-wifr, gan ddefnyddio'r un gweithdrefnau (protocolau), sef technoleg ultra-wideband gyda graddfa trosglwyddo data o hyd at 480 Mbit.

Datblygwyd yr Universal Serial Bus i symleiddio a gwella'r cysylltiad rhwng cyfrifiaduron personol a dyfeisiau ymylol, o'i gymharu â chysylltiadau an-safonol neu ad-hoc a oedd eisoes yn bodoli eisoes.[2]

O safbwynt y defnyddiwr y cyfrifiadur, roedd yr USB yn haws i'w defnyddio mewn sawl ffordd. Mae'r USB yn cysylltu'n otomatig, felly nid oes angen i'r defnyddiwr addasu gosodiadau ar y ddyfais a rhyngwyneb y cyfrifiadur ar gyfer cyflymder neu fformat y data ayb. Ar y pryd roedd hyn yn gam sylweddol i'r cyfeiriad iawn, ac yn hwyluso'r gwaith i'r defnyddiwr.[3] Mae safoni'n digwydd ar ochr y gwesteiwr (neu 'host'), felly gall unrhyw declyn ymylol ddefnyddio unrhyw dderbynydd; gelwir hyn yn "hot pluggable" - nid oes raid ailgychwyn y cyfrifiadur er mwyn iddo adnabod y ddyfais ymylol.

Gan fod y ddyfais ymylol yn derbyn ei gwefr o'r rhyngwyneb (y cyfrifiadur), yna nid oes yn rhaid i'r ddyfais ymylol fod â'i chyflenwad trydan ei hun, yn enwedig pan fo'r teclyn yn un bychan.

Ar gyfer cynhyrchwyr caledwedd a datblygwyr meddalwedd, mae'r safon USB yn dileu'r angen i ddatblygu rhyngwynebau perchnogol i declynau ymylol newydd. Mae'r ystod eang o gyflymder trosglwyddo sydd ar gael o ddyfeisiadau addas ar gyfer rhyngwyneb USB yn amrywio o'r allweddellau a'r llygoden syml i fyny i ffrydio rhyngwynebau fideo cymhleth.

Adnabod y derbynyddion (y socedi) golygu

Derbynyddion (socedi) sydd ar gael ar gyfer pob cysylltydd
Cysylltydd USB 1.0
1996
USB 2.0
2001
USB 2.0
Diwygiwyd
USB 3.0
2011
USB 3.1
2014
USB 3.2
2017
Cyfradd data 1.5 Mbit/s
(Low Speed)
480 Mbit/s
(High Speed)
480 Mbit/s
(High Speed)
5 Gbit/s
(SuperSpeed)
10 Gbit/s
(SuperSpeed+)
20 Gbit/s
(SuperSpeed+)
12 Mbit/s
(Full Speed)
Safon Math A
Math A
Ddim ar gael
Math B
Math B
Ddim ar gael
Mini Ddim ar gael Mini A
Daeth i ben[1] Ddim ar gael
Ddim ar gael Mini B
Ddim ar gael
Ddim ar gael Ddim ar gael Mini AB
Ddim ar gael
Micro Ddim ar gael Ddim ar gael Micro A
Daeth i ben Ddim ar gael
Ddim ar gael Ddim ar gael Micro B
Micro B
Ddim ar gael
Ddim ar gael Ddim ar gael Micro AB
Daeth i ben Ddim ar gael
Duplex llawn Ddim ar gael Ddim ar gael Ddim ar gael Ddim ar gael Type-C

Logos golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "USB deserves more support". Business. Boston Globe Online. Simson. 31 Rhagfyr 1995. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Ebrill 2012. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Jan Axelson, USB Complete: The Developer's Guide, Fifth Edition, Lakeview Research LLC, 2015, ISBN 1931448280, pages 1-7
  3. "Definition of: how to install a PC peripheral". PC. Ziff Davis. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Mawrth 2018. Cyrchwyd 17 Chwefror 2018.
  4. "Icon design recommendation for Identifying USB 2.0 Ports on PCs, Hosts and Hubs" (PDF). USB. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-10-03. Cyrchwyd 2019-02-28..